Os na allwch fynychu eich apwyntiad ysbyty, cysylltwch â ni fel y gellir defnyddio'ch slot ar gyfer claf arall.
Os ydych chi'n aros am apwyntiad dilynol, ffoniwch y rhif Llinell Apwyntiadau Cleifion Allanol uchod.
Os ydych wedi derbyn llythyr apwyntiad gan adran unigol, efallai y rhoddwyd rhif arall i chi ei ffonio i newid eich apwyntiad. Felly dylech bob amser wirio'ch llythyr apwyntiad cyn deialu'r rhif cyffredinol a roddir uchod.
Os oes angen i chi newid apwyntiad gyda'ch meddyg, deintydd neu optegydd, ffoniwch y feddygfa neu'r practis unigol yn uniongyrchol.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.