Neidio i'r prif gynnwy

Parcio

Ble alla i barcio?

Rhaid i gleifion ac ymwelwyr barcio mewn mannau parcio dynodedig i gleifion ac ymwelwyr rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r meysydd parcio hyn wedi’u nodi’n glir gan yr arwyddion glas. 

Y tu allan i’r oriau hyn, gall cleifion ac ymwelwyr ddefnyddio unrhyw faes parcio dynodedig, ac eithrio parthau gollwng. 

Bydd camau gorfodi yn cael eu cadw ar gyfer mannau parcio Bathodyn Glas a rheoli traffig (llinellau coch/melyn dwbl, ardaloedd â llinellau melyn, ac ati). 

Edrychwch ar ein map parcio yma

 

Rwy'n ddeiliad Bathodyn Glas. Ble alla i barcio?

Mae nifer o fannau parcio Bathodyn Glas ar draws safle’r ysbyty. Mae’r rhan fwyaf o fannau parcio wedi’u lleoli o fewn Maes Parcio 9a (maes parcio aml-lawr).

 

Am ba hyd y gallaf barcio?

Mae ein meysydd parcio i gleifion ac ymwelwyr yn caniatáu 4 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ni orfodir y cyfyngiad hwn y tu allan i’r oriau hyn. 

 

Beth os oes angen i mi ymestyn fy nghyfnod parcio?

Gall cleifion ac ymwelwyr ychwanegu dwy awr i’w hamser parcio drwy roi manylion cofrestru eu cerbyd yn un o’r peiriannau parcio sgrin gyffwrdd. Mae’r peiriannau parcio wedi’u lleoli yn ardal derbynfa’r ysbyty ac o fewn llawer o adrannau

Sicrhewch eich bod yn gwneud hyn o fewn eich arhosiad chwe awr.

Os bydd angen i chi aros yn hirach neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag aelod o staff neu cysylltwch â Swyddfa Parcio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gael cymorth.

 

Beth os ydw i'n mynychu'r Uned Achosion Brys?

Bydd gan gleifion sy’n mynychu’r Uned Achosion Brys hyd at 24 awr o barcio am ddim o’r amser y byddant yn cyrraedd y maes parcio. Defnyddiwch y peiriant yn yr adran hon naill ai pan fyddwch yn cyrraedd neu cyn i chi adael, er mwyn cael trwydded rithwir.

 

Beth os ydw i'n mynychu'r Ystafell Esgor?

Bydd cleifion sy’n mynychu’r Ystafell Esgor yn yr Adran Mamolaeth, Obstetreg a Gynaecoleg yn gallu parcio am ddim am hyd at 48 awr o’r amser y byddant yn cyrraedd y maes parcio. Defnyddiwch y peiriant yn yr adran hon naill ai pan fyddwch yn cyrraedd neu cyn i chi adael, er mwyn cael trwydded rithwir.

Rhaid i gleifion ac ymwelwyr sy’n parcio ym meysydd parcio 15b gofrestru eu cerbyd pan fyddant yn cyrraedd gan ddefnyddio peiriant naill ai yn Nhŷ Trefynwy neu Dŷ Morgannwg gerllaw.

 

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi derbyn Hysbysiad Tâl Parcio?

Nid oes yn rhaid i gleifion ac ymwelwyr dalu am barcio yn YAC, fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar waith a chyhoeddir hysbysiadau taliadau parcio os na chydymffurfir â’r rhain. Caiff ein meysydd parcio eu rheoli gan ParkingEye. Os byddwch yn derbyn hysbysiad taliadau parcio ac yn dymuno cyflwyno apêl i ParkingEye, gallwch wneud hynny drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiad ei hun.

 

Ble gall staff barcio?

Os ydych yn aelod o staff a’ch bod yn dymuno parcio ar safle, rhaid i chi wneud cais am drwydded. Er y gallech gael trwydded, nid yw hyn yn sicrhau eich bod yn cael lle parcio ar y safle.

Rhaid i staff barcio yn y meysydd parcio i staff fel y dynodir gan eu trwydded. Edrychwch ar ein map maes parcio staff yma.

 

Rwy'n fyfyriwr, a allaf barcio ar y safle?

Nid ydym yn rhoi trwyddedau parcio i fyfyrwyr yn YAC a byddem yn gofyn i chi beidio â pharcio yn y maes parcio i gleifion/ymwelwyr.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni