Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: bipcaf.gig.cymru.

Caiff y wefan hon ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, dylai hyn olygu eich bod yn gallu gwneud y canlynol:

  • gwneud y llun yn fwy (hyd at 200%) heb i rannau o’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • mynd i’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd i’r mwyafrif o’r tudalennau ar y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni wedi gwneud testun y wefan mor hawdd â phosib i’w ddeall hefyd.

Mae cyngor gan AbilityNet ar sut i’w gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio eich dyfais os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon 

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • efallai na fydd rhannau o rai tudalennau yn gweithio'n dda gyda Thechnolegau Cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
  • nid yw rhai dewislenni yn gwbl hygyrch
  • nid oes gan rai botymau a dolenni ddisgrifiadau hygyrch
  • mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â chyferbyniad lliw gwael 
  • mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi'u trefnu’n rhesymegol
  • nid yw rhai tudalennau yn gwbl ddefnyddiadwy gyda'r bysellfwrdd
  • mae gan rai tudalennau orchymyn ffocws afresymegol
  • mae eitemau bwydlen eilaidd yn newid trefn pan ddewisir eitem
  • mae gan rai ffurflenni negeseuon gwall neu labeli nad ydynt yn glir
  • ni ellir oedi neu atal rhywfaint o gynnwys symudol
  • ni allwch addasu uchder y llinell neu fylchau rhwng y testun
  • nid yw llawer o'r dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes gan bob fideo a recordiwyd gapsiynau 
  • nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau
  • mae rhai delweddau yn cynnwys testun ac nid oes ganddynt dag alt cyfatebol 
     

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm cyfathrebu, e-bostiwch news@wales.nhs.uk, yn y lle cyntaf a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Adrodd ar broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'r tîm cyfathrebu, e-bostiwch news@wales.nhs.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni

Os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â'r tîm Cydraddoldeb ar 029 2183 6434, e-bostiwch Keithley Wilkinson, Rheolwr Cydraddoldeb , neu anfonwch eich ymholiad drwy'r post, at:

Tîm Cydraddoldeb
Tŷ Coetir
Ffordd Maes-y-Coed
Caerdydd
CF14 4HH

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, safon AA o ganlyniad i’r enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Er ein bod yn ymdrechu i gwrdd ag 'WCAG 2.1 AA'  mae gennym y problemau diffyg cydymffurfio canlynol ar hyn o bryd:

  • Mae rhai dewislenni a rhannau o rai tudalennau wedi'u marcio mewn ffordd a allai ei gwneud yn ddryslyd pan fyddant yn cael eu cyrchu gan ddefnyddio Technolegau Cynorthwyol.  Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth Lefel A
  • Mae dewislen wag yn bresennol ar rai tudalennau.  Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 4.1.1 Dosrannu Lefel A, a WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth Lefel A
  • Nid oes gan y botwm a ddefnyddir i glirio unrhyw destun a nodir yn y blwch chwilio label hygyrch.  Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth Lefel A
  • Mae'r botwm/cyswllt a ddefnyddir i newid iaith yn cyflwyno label gwahanol, llai penodol, i Dechnolegau Cynorthwyol nag i ddefnyddwyr gweledol. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau Lefel A
  • Nid oes gan rywfaint o’r testun ddigon o gyferbyniad â'i gefndir. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) Lefel AA. 
  • Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn amnyth resymegol. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Chysylltiadau Lefel A
  • Nid yw rhai rhannau o rai tudalennau yn gwbl ddefnyddiadwy gyda'r bysellfwrdd. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 2.1.1 Bysellfwrdd Lefel A
  • Mae gan rai tudalennau drefn ffocws afresymegol.  Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws Lefel A
  • Mae eitemau dewislenni eilaidd yn newid trefn pan ddewisir eitem. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 3.2.3 Llywio Cyson Lefel AA.
  • Mae gan rai ffurflenni negeseuon gwallau neu labeli nad ydynt yn glir.  Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau Lefel A
  • Nid oes gan ambell garwsél (a ddangosir yn unig ar sgriniau bach neu ar lefelau chwyddo uchel) ddull i oedi neu atal eu symudiad. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 2.2.2 Saib, Stop, Cuddio Lefel A
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys delweddau heb opsiwn testun. Mae hyn yn groes i WCAG 2.1, maen prawf llwyddiant 1.1.1  Cynnwys Di-destun'.  

  • Mae rhai delweddau o destun yn cael eu defnyddio i gyfleu gwybodaeth, lle gellid defnyddio testun i gyflawni hyn. Mae hyn yn groes i 'WCAG 2.1 maen prawf llwyddiant 1.4.5 Delweddau o Destun Lefel AA' 

Baich anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth am gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai rhannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt ar gael ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018. 

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn rhoi manylion cyswllt lle bynnag y bo'n bosibl.  Wrth i ddogfennau gael eu hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried. 

Gallwch weld ein datganiad baich anghymesur llawn yma. 

Llywio a chael mynediad at wybodaeth

  • Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb fod rhywfaint o'r cynnwys yn gorgyffwrdd. 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF o bryd i'w gilydd sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i ddatrys y problemau hyn a rhoi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle. 

Nid yw'r gofynion hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni bennu dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu pennu unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau'r Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau a dogfennau gweithdrefn y Bwrdd Iechyd neu ddogfennau statudol megis Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

Ar adegau, rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF sy'n cynnwys 'trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi'u sganio neu nodiadau wedi’u hysgrifennu â llaw’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - mae'r rhain y tu allan i gwmpas ac ni fyddant yn cael eu pennu.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.  Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu is-deitlau ar gyfer fideos a recordiwyd ymlaen llaw.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Medi 2023.

Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2019. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dilynwch ni