Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 14,500 o staff ac yn darparu gwasanaethau iechyd i boblogaeth o oddeutu 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ledled de a chanolbarth Cymru ar gyfer amrywiaeth o arbenigeddau, ac yn gwerthfawrogi sgiliau a phrofiad ein gweithlu dros dro sy'n allweddol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol.
Rydym yn chwilio am weithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig i weithio ar draws ein safleoedd ysbyty a'n meysydd gwasanaeth amrywiol:
Mae'r Adran Banc Staff ar agor fel a ganlyn:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30am tan 6:30pm
Dydd Sadwrn: 8:30am tan 4:30pm
Os hoffech neilltuo sifft gronfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, cysylltwch â ni ar 029 2071 6200 a bydd aelod o'r tîm Banc Staff yn falch o'ch helpu.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Mae'r Swyddfa Banc Staff wedi'i lleoli yn:
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Heol Penlan
Llandochau
CF64 2XX
Mae llawer o fuddion yn gysylltiedig â gweithio dros dro, gan gynnwys y canlynol:
A yw unrhyw un o'r cwestiynau canlynol yn berthnasol i chi?
Os felly, mae arnom angen pobl fel chi! Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n gallu gweithio'n effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau, wardiau ac adrannau fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae'n rhaid bod gennych brofiad o ddarparu gofal yn y rôl hon neu rôl gyfatebol mewn sefydliad sy'n darparu gofal iechyd.