Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhad eich bod yn ffit i weithio

Gwiriadau Cyn Cyflogaeth

Cyn i chi ddechrau ar eich swydd newydd gofynnir i chi lenwi holiadur sy'n cynnwys eich holl fanylion. Gofynnir cwestiynau i chi hefyd ynglŷn â'ch iechyd, ac unrhyw imiwneiddiadau/ brechiadau perthnasol a gawsoch yn y gorffennol.

Yna caiff y wybodaeth hon ei hasesu gan nyrs gymwysedig yn Iechyd Galwedigaethol i benderfynu a oes unrhyw faterion iechyd cyfredol neu bosibl a allai effeithio arnoch chi yn eich swydd newydd, ynghyd ag unrhyw addasiadau y gallai fod angen eu hystyried. Pwrpas y sgrinio hwn yw sicrhau eich bod chi a'ch cyflogwr yn cael eich diogelu.

I lawer o bobl, y sgrinio papur hwn yw cam cyntaf ac unig gam sgrinio cyn-cyflogi, ond efallai y bydd adegau pan fydd angen rhagor o wybodaeth, ac efallai y byddwch yn derbyn galwad ffôn gan y Nyrs Iechyd Galwedigaethol neu yn cael apwyntiad i fynd i'r adran Iechyd Galwedigaethol i drafod hyn ymhellach.

Bydd galwedigaethau sy'n ymgymryd â Gweithdrefn a allai Arwain at Gysylltiad (EPP) angen sgrinio am feirysau a gludir yn y gwaed fel:

  • HIV
  • Hep B 
  • Hep C                                                                          

Cyfeiriadau at Iechyd Galwedigaethol

Atgyfeiriad Rheolwyr

Gall rheolwyr atgyfeirio aelod o staff i gael gwerthusiad iechyd er mwyn cael atebion i gwestiynau penodol am iechyd unigolyn ar ôl salwch neu anaf drwy ddefnyddio'r ffurflen Atgyfeiriad Rheolwyr. (Noder: dim ond os ydych wedi mewngofnodi i gyfrifiadur personol BIP y mae'r ffurflen hon ar gael). Dylid gwneud ceisiadau am gymorth arall gan gynnwys cyngor cyffredinol neu asesiad o'r gweithle yn ysgrifenedig i'r adran.

Ni all y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol roi barn ddiffiniol derfynol ynghylch a fydd unigolyn yn cael amddiffyniad gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Y Tribiwnlys Cyflogaeth sydd â'r penderfyniad terfynol bob amser. Fodd bynnag, efallai y bydd y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn gallu darparu cyngor ar sail profiad a gwybodaeth am achosion yn y gorffennol.

Hunan-atgyfeirio

Gall aelodau staff sy'n cael anhawster yn y gweithle oherwydd mater yn ymwneud ag iechyd hunangyfeirio'n ysgrifenedig neu dros y ffôn. Fe'ch cynghorir yn gyffredinol i sicrhau bod eich rheolwr llinell yn ymwybodol o'ch hunanatgyfeirio, er nad yw hynny'n hanfodol.

Cyngor Atgyfeiriad Rheolwyr i weithwyr 

Cyngor Atgyfeiriad Rheolwyr i reolwyr (Yn cael ei ddatblygu)

Ymweliadau â'r Gweithle

Gwneir ymweliadau yn y gweithle i sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau DSE Offer Sgrin Arddangos neu i edrych ar broblemau eraill yn y gweithle, megis gofod, tymheredd, lleithder, lefelau sŵn, cynllun, symud a thrin, ac ati. Gall ein cynghorwyr cymwys ddarparu cyngor am reoliadau ac arweiniad ar unrhyw addasiadau sy'n ofynnol, er mwyn creu amgylchedd gwaith iachach a mwy cyfforddus i'ch gweithwyr.

Dim ond os ydych chi wedi cael eich asesu ym maes Iechyd Galwedigaethol yn gyntaf y gellir trefnu ymweliad â'r gweithle.

Dilynwch ni