Neidio i'r prif gynnwy

Steve Gauci

Mae Steve Gauci, Hyrwyddwr Iechyd Meddwl Unsain a Hyrwyddwr Iechyd Meddwl y Bwrdd Clinigol Diagnosteg Glinigol a Therapiwteg, yn rhoi ei brofiad personol o iechyd meddwl, a sut y gwnaeth ei ysbrydoli i ddod yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl.

Steve Gauci

Meddai Steve: “Ysgrifennais y blog hwn (sydd wedi cymryd llawer o ddewrder) i Mind Cymru, yn y gobaith y byddaf yn annog unrhyw un sy’n darllen hwn sydd â phroblem iechyd meddwl, neu sy’n adnabod unrhyw un sydd â phroblem o'r fath, i geisio cymorth, i fod yn agored a thrafod eu salwch, yn y gobaith y gall y blog hwn helpu tuag at ddileu'r stigma sy'n aml yn gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae salwch meddwl fel unrhyw fath arall o salwch, nid yw salwch meddwl yn adnabod unrhyw ffiniau, gall daro aelodau o'r teulu, ffrindiau, a chydweithwyr - ac efallai nad ydych chi hyd yn oed yn gwybod.

"Fy enw i yw Steve Gauci ac rwy'n falch o fod yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl, cynrychiolydd arweinydd ochr staff a Hyrwyddwr IM i'r Bwrdd Clinigol Diagnosteg Clinigol a Therapiwteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

"Mae hyfforddiant Hyrwyddwr Iechyd Meddwl Unsain yn gwrs achrededig ac yn rhan o waith arloesol Unsain (Cymru) ar IM yn y gweithle. Mae'r hyfforddiant hyrwyddwr IM wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae Unsain yn bwriadu cyflwyno'r hyfforddiant yn genedlaethol.

"Fy rôl fel Hyrwyddwr Iechyd Meddwl yw gweithio i godi proffil salwch meddwl a sicrhau newid diwylliannol yn y gweithle, trwy fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Gweithio tuag at sicrhau bod camau effeithiol yn cael eu cymryd yn erbyn achosion o straen yn y gweithle, ac i sicrhau bod aelodau sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn cael cefnogaeth ddigonol gan eu rheolwyr llinell. Ac i helpu aelodau sy'n dioddef o straen, pryder, iselder ysbryd, neu unrhyw broblem iechyd meddwl arall trwy eu cyfeirio at y cyngor a'r gefnogaeth orau sydd ar gael.

"Dechreuodd fy mhrofiad personol gydag iechyd meddwl 7 mlynedd yn ôl, pan fu farw fy ngwraig 51 oed ar ôl salwch hir a thrawmatig. Roedd marwolaeth fy ngwraig yn drawmatig iawn; roeddwn i mewn lle tywyll iawn am fisoedd ar ôl i'm gwraig farw, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd cysgu, byddwn yn aros yn effro yn mynd dros ddigwyddiadau yn fy mhen, drosodd a throsodd, nes bod blinder yn fy llethu'n llwyr ac yr oeddwn yn syrthio i gysgu, dim ond i ddeffro mewn chwys oer oherwydd hunllefau cylchol, ac yna gorfod deffro cwpl o oriau yn ddiweddarach i fynd i'r gwaith, roeddwn i wedi blino'n gorfforol ac yn feddyliol!

"Roedd fy ngwraig a minnau'n briod am 33 mlynedd, ac yn sydyn iawn dyna lle roeddwn i yn byw ar fy mhen fy hun mewn tŷ mawr gwag, ac roeddwn yn teimlo'n hynod ynysig ac unig. Ni fedrwn i fynegi fy nheimladau wrth fy mhlant gan fy mod yn gwybod eu bod nhw hefyd mewn poen enbyd, a rhywsut roeddwn yn teimlo fy mod yn eu hamddiffyn trwy beidio â thrafod fy nheimladau â nhw.

"Rwy'n cofio y byddai ffrindiau a phobl roeddwn yn eu hadnabod yn aml yn fy osgoi; rwy'n dyfalu ei bod hi'n anodd gwybod beth i'w ddweud wrth rywun sydd mewn profedigaeth!

"Yn y pen draw, penderfynais ofyn am gymorth gan fy meddyg teulu; dyna pryd y cefais ddiagnosis bod gen i straen ôl-drawmatig.

"Fe wnaeth y meddyg teulu fy nghyfeirio at Wasanaeth Profedigaeth Cruse a oedd yn rhagorol, roedd y cynghorydd Cruse yn wych, o'r diwedd roedd gen i rywun y gallwn i siarad â nhw. Rhywsut, roeddwn i'n gallu mynegi fy nheimladau wrth ddieithryn yn llawer haws!

"Rwy'n angerddol am faterion iechyd meddwl yn enwedig straen yn y gweithle, ac rydw i'n mynd ati i godi ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn fy ngweithle trwy gynnal digwyddiadau ymwybyddiaeth IM ac ati.

"Hoffwn ddiolch i Unsain, Bwrdd Clinigol CD&T, a Mind Cymru am eu cefnogaeth.

"Os oes gennych unrhyw gwestiynau, problemau neu ddim ond eisiau sgwrs, rhowch alwad i mi ar 07903394822 neu cysylltwch â swyddfa UNSAIN ar 029 20748280."

Os hoffech gael eich cynnwys fel Hyrwyddwr iechyd meddwl Amser i Newid, cysylltwch â nicola.bevan3@wales.nhs.uk

Dilynwch ni