Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Cynllunio Llesiant i Reolwyr

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar ganllawiau gan sefydliad Kings Fund a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Nid yw'r canllaw hwn yn rhestr gynhwysfawr o argymhellion, ond bwriedir iddo hysbysu rheolwyr o brosesau sy'n debygol o fod o gymorth, neu'n ddi-fudd. Mae pob ardal a thîm yn unigryw a byddant yn wynebu gwahanol heriau felly nid oes yr un ateb i bawb ar gyfer llesiant. Felly mae'n bwysig eich bod chi'n siarad â'ch timau yn rheolaidd ac yn ystyried y materion sy'n effeithio arnyn nhw wrth ystyried pa gamau i'w cymryd.

Dylech:

  • Fod yn weladwy, ar gael ac yn gefnogol; rydych chi yn y sefyllfa orau i greu amgylchedd amddiffynnol

  • Bod â strategaeth gyfathrebu ar waith. Sicrhewch bod cyfathrebu o ansawdd dda a diweddariadau gwybodaeth cywir yn cael eu darparu i'r holl staff. Cyfathrebwch yn rheolaidd ac yn aml mewn ffyrdd clir syml gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, ar lafar, yn rhithwir, yn ysgrifenedig. Briffiwch staff mewn ffordd agored, onest a didwyll fel eu bod yn cael eu paratoi orau ar gyfer yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wynebu a'r hyn y gellir gofyn iddyn nhw ei wneud.

  • Bod yn hyblyg wrth gefnogi anghenion ac ymateb i adborth staff ar yr hyn sy'n ddefnyddiol, a'r hyn nad yw'n ddefnyddiol. Sefydlwch fecanweithiau adborth rheolaidd fel y gall negeseuon gyrraedd rheolwyr yn gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithredu ar adborth a lle nad yw hyn yn bosibl, cyflewch pam na ellir gwneud hyn.

  • Os yn bosibl, cylchdrowch y gweithwyr o swyddogaethau straen uwch i swyddogaethau straen is.  Gosodwch weithwyr dibrofiad i weithio mewn partneriaeth â'u cydweithwyr mwy profiadol. Mae systemau ‘cyfeillio’ o’r fath yn helpu i ddarparu cefnogaeth, monitro straen ac atgyfnerthu gweithdrefnau diogelwch. Gweithredwch amserlenni hyblyg ar gyfer gweithwyr sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol neu sydd ag aelod o'r teulu sy'n cael ei effeithio gan ddigwyddiad llawn straen

  • Sicrhewch fod anghenion corfforol sylfaenol staff yn cael eu diwallu gan gynnwys diogelwch (yn cynnwys mynediad priodol at offer amddiffynnol personol), bwyd a hydradiad, gorffwys a chysgu. Cefnogwch staff i gymryd seibiant, gwyliau blynyddol a rhoi sylw i hunanofal. Bydd modelu rôl o'r ymddygiadau hyn gan uwch staff yn bwysig.

  • Darparwch fynediad at hyfforddiant ar gyfer y sefyllfaoedd a allai fod yn drawmatig ac y gallai staff eu wynebu, gan gynnwys cyfleu'r ffeithiau'n onest, datblygu sgiliau i ymdopi â'r rhain ac ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl posibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig i staff newydd, staff sydd wedi cael eu hadleoli dros dro i faes newydd yn ogystal ag unrhyw fyfyrwyr sydd wedi dod i ymarfer yn gynnar. Dyma beth hyfforddiant sydd ar gael:

  • Rhowch sylw i staff a allai fod yn arbennig o agored i niwed. Gall hyn fod oherwydd profiadau sy'n bodoli eisoes neu faterion iechyd meddwl, trawma neu brofedigaethau blaenorol, neu bwysau a cholled gydamserol. Meddyliwch am y ffordd orau o fonitro'r staff hyn a rhoi mecanweithiau cymorth ychwanegol ar waith iddyn nhw.

  • Anogwch staff i ddefnyddio cefnogaeth gymdeithasol a chefnogaeth cymheiriaid. Nid yw'n ddigon cael systemau cymorth da yn unig, mae angen i staff eu defnyddio'n weithredol. Efallai y bydd staff yn teimlo’n euog neu ddim eisiau rhoi baich neu drallod ar eraill, yn enwedig eu teulu, felly meddyliwch sut y gellir cynyddu cefnogaeth cymheiriaid a rheolwyr yn y gwaith. Mae tystiolaeth yn awgrymu, pan fydd unigolyn yn cael cefnogaeth anffurfiol ei gyfoedion yn dilyn amlygiad trawmatig, ei fod yn llai tebygol o fod angen ymyrraeth ffurfiol. Nid yw effeithiolrwydd ymyriadau cymheiriaid yn seiliedig ar gael un aelod staff wedi'i hyfforddi mewn trawma neu fod â gwybodaeth am trawma - yn hytrach, daw o'r cyfeillgarwch a'r ymdeimlad o dynged gyffredin sy'n deillio o brofiad trawma a rennir.

  • Sefydlwch fecanweithiau cymorth cymheiriaid penodol e.e. cyfeillio bob dydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd staff wedi cael eu symud i ffwrdd o'u cefnogaeth sefydledig gan gymheiriaid ac yn gweithio mewn meysydd newydd gyda gwahanol dimau.

  • Caniatewch amser a lle i staff fod gyda'i gilydd a chefnogi ei gilydd ac annog gweithgareddau a thrafodaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, lle bo hynny'n bosibl.

  • Ystyriwch gynnal digwyddiadau galw heibio rheolaidd CAVaCoffee a SIARAD. Efallai y bydd yn cymryd dipyn o'r sesiynau hyn i gael staff i ymgysylltu, felly peidiwch â rhoi'r gorau iddi ar ôl un 

  • Hwyluswch gydlyniant tîm a cheisio meithrin cysylltiadau cefnogol cryf rhwng aelodau'r tîm a rheolwyr. Bydd yn bwysig i reolwyr ac arweinwyr tîm fodelu rôl dull tîm gofalgar a chydlynol - “rydyn ni i gyd yn hyn gyda'n gilydd”. Mae tystiolaeth yn dangos bod gan gydlyniant rhwng unigolion gydberthynas gref ag iechyd meddwl, ac y gallai gwytnwch tîm fod yn fwy cysylltiedig â'r bondiau rhwng aelodau'r tîm nag arddull ymdopi unrhyw unigolyn.

  • Rhowch gyfle i staff siarad am eu profiad, er mwyn gwella cefnogaeth a chydlyniant cymdeithasol. Gall hyn ddigwydd ar ddiwedd sifftiau neu ar adegau sylweddol. Gall hyn ddigwydd yn unigol rhwng aelod o staff a rheolwr neu oruchwyliwr, neu mewn timau o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd. Ni ddylai'r sesiynau hyn gynnwys unrhyw un sy'n cael ei fandadu i siarad am ei feddyliau neu ei deimladau. Mae'n bwysig bod sefydliadau'n darparu'r cyfleoedd hyn, ond i staff fod yn rhydd i benderfynu a ddylid mynychu ai peidio. Os cânt eu cynnig, dylid darparu'r sesiynau hyn yn ystod shifft aelod staff (nid ar ei hôl) er mwyn peidio â llechfeddiannu amser gorffwys ac adfer.

  • Parhewch i fonitro a chefnogi staff ar ôl i'r argyfwng ddechrau cilio. Lle bo angen, cyfeiriwch nhw ymlaen am driniaeth seicolegol ar sail tystiolaeth.

  • Cymerwch amser i ddod yn gyfarwydd â'r adnoddau llesiant sydd ar gael i staff, fel eich bod chi'n gwybod beth allan nhw ei gyrchu ac er mwyn i chi allu eu cyfeirio os oes angen. Rhannwch hyn gyda'r rheolwyr llinell. Ystyriwch ddatblygu hyrwyddwyr llesiant yn eich timau - mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer y rôl hon ar gael trwy'r Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr.

  • Mynychwch sesiwn Holi ac Ateb Llesiant y Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr i reolwyr, ac anogwch eich rheolwyr llinell i ddod hefyd.

  • Cofiwch ganolbwyntio ar eich llesiant eich hun a chymhwyso'r uchod i gyd i chi'ch hun ac i uwch gydweithwyr.

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Peidiwch â chynnig Ôl-drafod Seicolegol, Ôl-drafod Straen Digwyddiad Critigol neu unrhyw ymyrraeth sesiwn unigol arall sy'n cynnwys gorfodi staff i siarad am eu meddyliau neu eu teimladau. Mae tystiolaeth y gall yr ymyriadau hyn fod yn aneffeithiol neu hyd yn oed gynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu PTSD.
  • Peidiwch â chynnig rhaglenni hyfforddi amhenodol fel hyfforddiant ‘cryfder meddwl’ gan nad yw’r rhain yn cael effaith fuddiol ar leihau problemau iechyd meddwl neu PTSD ac maent yn debygol o fod â chyfraddau ymadael uchel. Cynigiwch gefnogaeth gyffredinol a sgwrsio.
  • Peidiwch â rhuthro i gynnig ymyriadau seicolegol ffurfiol yn rhy fuan heb asesiad gofalus, gan gynnwys monitro gweithredol. Er ei fod â bwriad da, gall ymyrryd ym mecanweithiau ymdopi naturiol pobl yn rhy gynnar fod yn niweidiol.

  • Peidiwch â chynnig unrhyw ddulliau triniaeth seicolegol nad ydynt wedi eu profi. Dylai unrhyw ymyrraeth seicolegol gael ei darparu gan glinigwr sydd â chymwysterau a goruchwyliaeth briodol, ar yr adeg briodol.

  • Peidiwch â bod ofn gofyn i rywun sut maen nhw, mae'r sefyllfa hon yn ddigynsail; mae'n iawn peidio â bod yn iawn.

Mwy o wybodaeth:  

Canllawiau manwl ar gael ar wefan traumagroup.org

Grŵp Llesiant Staff Covid19 Cymdeithas Seicolegol Prydain sut i gefnogi staff gofal iechyd

Grŵp Ymateb Trawma COVID King’s Fund - arweiniad ar gyfer cynllunio ymyriadau cynnar

Dilynwch ni