Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai Llesiant

climbing

Mae'r gyfres o weithdai Gwasanaeth Llesiant Gweithwyr (EWS) wedi'i chynllunio ar gyfer aelodau staff unigol sydd eisiau deall mwy amdanynt eu hunain, sut maent yn cyfathrebu ag eraill a chynyddu eu gallu i roi sylw i'w llesiant. Mae'r hyfforddiant am ddim i staff BIP Caerdydd a'r Fro a gellir ei fynychu o fewn amser gwaith gyda chymeradwyaeth eich rheolwr.

Dyddiadau cyfredol y cyrsiau

“Oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth gyda COVID-19, rydym yn aildrefnu ein gweithdai llesiant a bydd dyddiadau newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law”. 

Os hoffech archebu lle i chi'ch hun mewn gweithdy, ffoniwch EWS ar 02920 744465 neu e-bostiwch employee.wellbeing@wales.nhs.uk


 
Gall aelodau staff hunangyfeirio ar gyfer y cwrs unigol o'u dewis. Mae'r gweithdai yn darparu lleoedd ar gyfer hyd at 20 o gyfranogwyr ac fel arfer yn cael eu cynnal naill ai yn Adeilad Cochrane, YAC neu'r Adeilad Addysg, YALl.
 
Mae'r hyfforddiant yn cael ei hwyluso gan gwnselwyr EWS ac mae ar ffurf sesiynau a addysgir, sy'n cynnwys trafodaeth grŵp ac weithiau chwarae rôl. Gall y rhai sy'n anghyffyrddus â hyn optio allan o'r gweithgaredd.
 
Chi sydd yn gwybod orau a fyddech chi'n elwa o fynd i Weithdy Llesiant. Weithiau, mae pobl yn teimlo fod lleoliad grŵp yn frawychus ac maent yn poeni am orfod siarad am faterion preifat gyda chydweithwyr. Gallwch fod yn dawel eich meddwl, ni ofynnir i neb siarad am bethau y mae'n well ganddyn nhw eu cadw'n breifat. Nid grŵp therapi mo’r gweithdy hwn, ond yn hytrach mae’n rhoi gwybodaeth, awgrymiadau a syniadau ar sut i oresgyn eich anawsterau. Weithiau mae pobl yn dewis rhannu eu profiadau eu hunain ond dim ond os ydyn nhw eisiau gwneud hynny, a'i fod yn ddefnyddiol, yn gefnogol ac yn briodol. Trafodir pwysigrwydd cyfrinachedd ar ddechrau pob gweithdy.
 
Mae'r holl hyfforddiant yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae'n unol â chanllawiau NICE. Os hoffech drafod unrhyw beth cyn mynychu gweithdy, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.
 
Mae'n bwysig i ni fod pob unigolyn sy'n dymuno mynychu'r gweithdai yn ystyried a yw'n briodol iddyn nhw. Er enghraifft, os yw rhywun yn profi trallod acíwt neu bryder cymedrol i ddifrifol, efallai na fydd yn fuddiol iddynt fynychu un o'n gweithdai ac efallai y byddant yn elwa o gefnogaeth un i un yn hytrach nag amgylchedd grŵp. Os oes unrhyw un yn ystyried a yw gweithdy'n briodol iddyn nhw, ac yr hoffech ei drafod ymhellach, cysylltwch â'r gwasanaeth ar 02920744465.
 
Rydym hefyd yn wasanaeth hunan-atgyfeirio, ac felly nid ydym yn derbyn atgyfeiriadau gan reolwyr ar ran gweithwyr. Teimlwn yn gryf bod rhaid i'r cymhelliant i fynychu'r gweithdai ddod oddi wrth y cyfranogwyr eu hunain, ar ôl ystyried yn ofalus a yw amgylchedd gweithdy yn briodol ac a yw'r amseriad yn iawn.

Dilynwch ni