Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiad Adnoddau EWS

resource appointment

Mae apwyntiad adnoddau yn gyfle i chi ddod i siarad â chwnselydd proffesiynol am unrhyw fater neu sefyllfa sy'n gysylltiedig â'r cartref neu'r gwaith. Gall yr apwyntiad bara hyd at awr, felly bydd gennych ddigon o amser i drafod eich sefyllfa.

Yn eich Apwyntiad Adnoddau, bydd y cwnselydd yn ceisio gwneud y canlynol, trwy wrando, myfyrio a gofyn cwestiynau:

  • Cael stori 'ddigon cyflawn' a darganfod sut mae'r sefyllfa neu'r mater yn effeithio arnoch chi (o ran meddyliau, teimladau ac ymddygiad)
  • Deall y mater neu'r sefyllfa yng nghyd-destun ehangach eich bywyd
  • Deall hanes y sefyllfa a lle mae hi ar hyn o bryd
  • Edrych ar 'beth sy'n helpu' a 'beth sy'n gwaethygu'
  • Cadarnhau eich ffyrdd cyfredol o reoli'r sefyllfa, a'ch helpu i gofio sut rydych wedi defnyddio cryfderau ac adnoddau yn y gorffennol
  • Gweithio gyda chi i gynhyrchu opsiynau ynglŷn â'r mater neu'r sefyllfa
  • Edrych ar ba gefnogaeth ac adnoddau sy'n bodoli i chi eisoes, ac ystyried pa adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi

Gall hyn gynnwys:

Gall unrhyw weithiwr BIP ddod am Apwyntiad Adnoddau ac mae'r gwasanaeth am ddim i holl weithwyr y BIP.

 

Dilynwch ni