Neidio i'r prif gynnwy

Llety

Mae'r Swyddfa Breswylfeydd ar yr 2il Lawr yn Lakeside, YAC ac mae ar agor rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, lle bydd ein staff yn hapus i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych a'ch cynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallant.

Os hoffech gysylltu â ni trwy e-bost, gallwch wneud hynny ar: residences.admin.CAV@wales.nhs.uk

Gallwn ddarparu llety ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer y canlynol:

  • Unrhyw un ar unrhyw radd sy'n gweithio yn y BIP.
  • Myfyrwyr (ond yn gyffredinol dim ond ar sail tymor byr - e.e. pan fyddant ar leoliad neu gwrs, neu yn ystod wythnos arholiadau).
  • Locwm
  • Meddygon sy'n ymweld (meddygon teulu neu feddygon o Fyrddau Iechyd neu Ymddiriedolaethau eraill sy'n mynychu cyrsiau).
  • Staff/academyddion sy'n ymweld o ysbytai yn y DU neu dramor.

Os hoffech wneud cais am lety, cwblhewch y ffurflen gais berthnasol isod, a'i dychwelyd i'r Swyddfa Breswylfeydd naill ai trwy e-bost i Residences.Admin.CAV@wales.nhs.uk neu postiwch hi i: 

Y Swyddfa Breswylfeydd
2il Lawr Lakeside
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd CF14 4XW

Ffôn: 029 2074 492

Dilynwch ni