Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd - Diwrnod Llawn o Hyfforddiant

VBA Header

Trosolwg

Mae'r diwrnod llawn o sesiwn hon yn archwilio Gwerthuso Seiliedig ar Werthoedd yn y sefydliad. Fel rheolwr newydd, rydych yn gyfrifol am wybod sut mae aelodau eich tîm yn perfformio, ac mae'n hanfodol buddsoddi amser mewn rheoli eu perfformiad i sicrhau eu bod oll yn cyflenwi gwasanaethau rhagorol. Bydd y diwrnod hwn o hyfforddiant yn eich helpu i baratoi at werthusiadau a'u cynnal i'ch tîm. Ni ddisgwylir profiad blaenorol o gwbl, am fod y diwrnod hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gwerthuswyr newydd ac amhrofiadol.

Yn y sesiwn ymarferol a rhyngweithiol hon, byddwch yn archwilio sut mae defnyddio Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i ddatblygu a meithrin staff sy'n uchel eu diddordeb a'u cymhelliant sydd â'r sgiliau a'r hyder i wireddu ein gwerthoedd bob dydd. Cewch y cyfle i archwilio'r pecyn cymorth a'r dulliau cofnodi, trafod eich profiadau eich hun gyda'ch cymheiriaid, ac ystyried heriau a manteision defnyddio'r broses.

Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd yw un rhan o Strategaeth Cynllunio ar gyfer Olyniaeth Caerdydd a'r Fro ac, fel y cyfryw, mae'n cysylltu'n uniongyrchol ag amcanion strategol a gweledigaeth y sefydliad. Mae sgyrsiau am werthoedd, ymddygiadau a pherfformiad yn fodd pwysig o gyfathrebu a dylent ddigwydd ym mhob cyfarfod rhwng rheolwyr a staff ond cynlluniwyd y Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd blynyddol i fyfyrio ar gynnydd dros gyfnod hirach a mapio'r dyfodol.

Cynlluniwyd y diwrnod hyfforddiant hwn i werthuswyr newydd ac amhrofiadol a hoffai ddatblygu'r sgiliau meddalach sy'n ofynnol i gynnal gwerthusiad. Os ydych yn werthuswr profiadol a'r cyfan sydd ei angen arnoch yw diweddaru i'r broses newydd, trefnwch le mewn sesiwn hanner diwrnod.

Buddion i Chi

Byddwch yn gallu;

  • Defnyddio'r pecyn cymorth Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i gynnal sgwrs flynyddol gyda phob aelod o'ch tîm a chofnodi'r canlyniadau ar ESR
  • Trafod effaith rheoli perfformiad ar ansawdd gofal
  • Deall sut mae Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd yn ffitio yn y strwythur Rheoli Pobl a Chynllunio ar gyfer Olyniaeth cyffredinol ar gyfer y sefydliad
  • Cefnogi staff i droi gwerthoedd y sefydliad yn weithredoedd, penderfyniadau ac ymddygiadau pob dydd, gan gefnogi sgwrs â ffocws am ddatblygiad y gellir ei gofnodi  

Dyddiadau sydd Ar Gael

Oedwyd y rhaglen hon am y tro oherwydd COVD-19.

I gael gwybod sut mae cael lle ar y cyrsiau hyn, trowch at ein cyfarwyddiadau.

Defnyddiwch y gair allweddol "001%values" i chwilio am y cwrs hwn.

 

Ymddygiadau Arwain

Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddatblygu eich ymddygiadau arwain yn y meysydd canlynol: 

  • Arwain a hunanymwybyddiaeth
  • Medr ac Ymwybyddiaeth Wleidyddol
  • Rhannu arweinyddiaeth

Rhagor o Wybodaeth

Cynulleidfa Darged

Yr holl reolwyr llinell newydd a phresennol yn BIP Caerdydd a'r Fro.

Cost

Sylwch fod pob cwrs yn rhad ac am ddim, heblaw y nodir fel arall.

 

Dilynwch ni