Neidio i'r prif gynnwy

Sgiliau Clinigol

Darperir ystod eang o raglenni hyfforddi sgiliau clinigol yn BIP Caerdydd a'r Fro ar gyfer staff cofrestredig ac anghofrestredig. Cyflwynir pob cwrs gan hwyluswyr profiadol o ymarfer clinigol sydd â gwybodaeth arbenigol gyfoes o'r sgil sy'n cael ei dysgu.

Gellir gweld manylion yr holl raglenni hyfforddi sgiliau clinigol yn adran Sgiliau Hanfodol (adran 2) Prosbectws Hyfforddi yr adran Dysgu, Addysg a Datblygu (LED). Sylwch y bydd angen i chi fod yn gyfoes â'ch hyfforddiant gorfodol er mwyn archebu lle ar un o'r cyrsiau hyn.

Datblygu Sgiliau Clinigol ac Asesu Cymhwysedd

Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan y tîm LED mewn perthynas â hyfforddiant sgiliau clinigol a chymhwysedd clinigol. Os hoffech gael gwybodaeth neu gyngor ynghylch datblygu sgiliau clinigol neu asesu cymhwysedd yn ymarferol, cysylltwch trwy e-bost Ffion Jenkins neu ar 42734 (mewnol) neu (029) 21 42734 (allanol).

Am wybodaeth ar ddiweddaru eich sgiliau clinigol, cliciwch yma.

Dilynwch ni