Darperir ystod eang o raglenni hyfforddi sgiliau clinigol yn BIP Caerdydd a'r Fro ar gyfer staff cofrestredig ac anghofrestredig. Cyflwynir pob cwrs gan hwyluswyr profiadol o ymarfer clinigol sydd â gwybodaeth arbenigol gyfoes o'r sgil sy'n cael ei dysgu.
Gellir gweld manylion yr holl raglenni hyfforddi sgiliau clinigol yn adran Sgiliau Hanfodol (adran 2) Prosbectws Hyfforddi yr adran Dysgu, Addysg a Datblygu (LED). Sylwch y bydd angen i chi fod yn gyfoes â'ch hyfforddiant gorfodol er mwyn archebu lle ar un o'r cyrsiau hyn.
Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan y tîm LED mewn perthynas â hyfforddiant sgiliau clinigol a chymhwysedd clinigol. Os hoffech gael gwybodaeth neu gyngor ynghylch datblygu sgiliau clinigol neu asesu cymhwysedd yn ymarferol, cysylltwch trwy e-bost Ffion Jenkins neu ar 42734 (mewnol) neu (029) 21 42734 (allanol).
Am wybodaeth ar ddiweddaru eich sgiliau clinigol, cliciwch yma.