Neidio i'r prif gynnwy

Pobl a Diwylliant

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn falch iawn o fod yn lle gwych i hyfforddi, byw a gweithio, ac mae cynhwysiant, lles a datblygu wrth wraidd popeth a wnawn.   Fel tîm, ein prif bwrpas yw gwella profiad ein staff fel y gallant ddarparu iechyd a gofal i'r lefel uchaf posibl.  

Y Cynllun Pobl a Diwylliant yw'r map ffordd a fydd yn ein helpu i gyflawni hyn, nawr ac yn y dyfodol.   Drwy gyflawni'r Cynllun bydd gennym bobl sydd â'r sgiliau iawn, y nifer iawn ohonynt, yn y lle iawn; a thrwy hynny yn lleihau dyblygu a gwastraff ac yn osgoi niwed lle bynnag y bo modd.   Rydym am i'n gweithlu fod yn hapus, yn iach ac wedi’u cefnogi, fel eu bod nhw, yn eu tro, yn cefnogi lles y bobl sydd yn eu gofal.  

Mae pob un o'r timau o fewn Pobl a Diwylliant yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r uchelgais hon.   Cliciwch ar y dolenni i gael mwy o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud a sut i gysylltu â ni:

 

Adnoddau Dynol Cydraddoldeb a'r Gymraeg Dysgu, Addysg a Datblygiad

Adnoddau a Systemau Meddygol

 
Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol / Lles Cyflogeion
Systemau Gwybodaeth y Gweithlu Llywodraethu'r Gweithlu Gofal Plant a Meithrinfeydd Cyflogres (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) Recriwtio (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru)

Uwch Dîm:

Rachel Gidman - Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant

Lianne Morse - Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Claire Whiles - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol, Lles a Diwylliant

Jonathan Pritchard - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Pobl

 

Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur.   I gael gwybod mwy am fod mewn undeb a'r hyn y maent yn ei wneud, cysylltwch â Dawn Ward, Cadeirydd Cynrychiolwyr Staff, neu dilynwch y ddolen i'r dudalen Undebau Llafur. 

 

 

 

Dilynwch ni