Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio ar Sail Gwerthoedd

Beth yw Recriwtio ar Sail Gwerthoedd (VBR)?

Dull yw Recriwtio ar Sail Gwerthoedd (VBR) sy'n denu ac yn dewis myfyrwyr, hyfforddeion neu gyflogeion ar y sail bod eu gwerthoedd a'u hymddygiad unigol yn cydredeg â gwerthoedd BIP Caerdydd a'r Fro.

Mae'n ymwneud â gwella prosesau presennol i sicrhau ein bod yn recriwtio'r gweithlu cywir sydd â'r sgiliau cywir ac yn y niferoedd cywir, ond hefyd sydd â'r gwerthoedd cywir i gefnogi cydweithio effeithiol a gofal a phrofiad ardderchog i'r claf.

Canlyniad allweddol y broses yw denu ymgeisydd sydd â sgiliau technegol, sydd â phrofiad priodol, sy'n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â dyhead i wneud y gwaith. 

VBR process

Beth yw Cyfweld ar Sail Gwerthoedd?

Mae'r cyfweliad ar sail gwerthoedd yn ymgorffori'r gwerthoedd drwy gydol y cyfweliad. Mae'n canolbwyntio ar sut a pham mae'r ymgeisydd wedi gwneud dewisiadau penodol yn ei waith, gan werthuso gan ddefnyddio gwerthoedd ac ymddygiadau'r BIP. 

Mae'r ddogfen gyfarwyddyd Recriwtio ar Sail Gwerthoedd ar gael yma.

Mae hyfforddiant ar gael i reolwyr sy'n recriwtio - e-bostiwch LED neu ffoniwch [02921] 847834

Dilynwch ni