Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio - Cwestiynau Cyn Awdurdodi

 

Cam 1

Adolygu'r swydd gyfredol neu'r gofyniad newydd, yn enwedig y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person a elwir hefyd yn DS/MP Cymraeg/Welsh DS a MP Saesneg/English JD & PS    

Bydd y cwestiynau canlynol yn eich helpu i ddilyn y llwybr cywir:

A ydy hwn yn gyfnewidiad union am ddeiliad blaenorol y swydd heb unrhyw newidiadau i'r DS/MP?
- Os YDY, symudwch ymlaen i Gam 4, Os NA, symudwch ymlaen i Gam 2
A ydy hwn yn gyfnewidiad am ddeiliad blaenorol y swydd gyda mân newidiadau i'r DS/MP?
- Os YDY, symudwch ymlaen i Gam 2
A ydy'r newid hwn yn mynd i arwain at swydd gwbl newydd?
- Os YDY, symudwch ymlaen i Gam 2 - Yn y man hwn, cynghorir cael trafodaeth dros dro gyda'ch Cyfrifydd Ariannol. 

Cam 2

Swyddi newydd a swyddi sydd wedi newid / Cymysgedd sgiliau / Ailgynllunio rôl

Os nad yw'r swydd gyfredol yn bodloni gofynion y gwasanaeth rhagor, neu os oes angen gwneud newidiadau / gwelliannau i'r DS/MP (defnyddiwch y templedi DS a MP diweddaraf neu bydd eich rôl yn cael ei dychwelyd) neu os yw hon yn swydd gwbl newydd, bydd angen i'r rheolwr sy'n penodi drafod y newidiadau gyda chynrychiolydd y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. [Os byddwch yn gwneud unrhyw newidiadau i DS/MP, sylwch y bydd angen ichi 'Olrhain Newidiadau' ar bob cyflwyniad neu bydd eich DS/MP yn cael ei ddychwelyd].

- Os cewch eich cynghori gan adran y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol fod y newidiadau'n rhai mân ac na fyddant yn arwain at newid gradd, symudwch ymlaen i Gam 4.

- Os yw'r newidiadau'n sylweddol ac yn gwarantu adolygu gradd, bydd adran y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn cynghori y bydd angen adolygu'r swydd mewn panel Paru Swyddi Agenda ar gyfer Newid. Pan gaiff ei chadarnhau, gall y rheolwr sy'n penodi symud ymlaen i gam 3.

- Os yw hon yn swydd newydd, cyfeiriwch at y Protocol Swyddi Newydd a Swyddi sydd wedi Newid.

Cam 3

Trafod dros dro argaeledd cyllid gyda'ch Cyfrifydd Ariannol:

Bydd llawer o reolwyr yn cwrdd yn rheolaidd â'u cyfrifydd ariannol i drafod sefydliadau a chyllid. Ar yr adeg hon efallai y byddwch eisoes yn ymwybodol o'ch sefyllfa ariannol a'ch bod wedi trafod argaeledd cyllid dros dro. 
 

Os nad felly, cofiwch gael cytundeb dros dro gyda'ch cyfrifydd ariannol ar fforddiadwyedd cyn bwrw ymlaen.

Bydd angen i bob rheolwr sy'n recriwtio ddarparu'r wybodaeth ganlynol yn rhan o broses Awdurdodi Swyddi Gwag Trac: 

Ble mae'r cyllid am y swydd hon yn cael ei gynhyrchu?


Beth yw eich sefyllfa ariannol gyfredol?

 

A wnewch chi gadarnhau bod y swydd hon wedi'i chyllido'n llawn o fewn cyllidebau presennol neu, os swydd newydd yw hi, fod ffynhonnell y cyllid wedi'i sicrhau (yn rheolaidd ar gyfer swyddi parhaol ym mhob achos) a bod hyn yn y naill achos neu'r llall wedi'i gymeradwyo gan Bennaeth Cyllid yr Adran/Bwrdd Clinigol.

Cam 4

Diwygio terminoleg sydd wedi dyddio yn y DS/MP
Mae'n hanfodol sicrhau bod y DS/MP wedi'u diweddaru a'u bod yn rhydd o wahaniaethu. 

Y prawf o'r hyn y gellid deall yn rhesymol ei fod yn arwydd o fwriad i wahaniaethu yw a fyddai 'unigolyn cyffredin, rhesymol heb urnhyw wybodaeth arbennig' yn credu bod yr hysbyseb yn wahaniaethol. Datblygwyd cyfarwyddyd hefyd i'ch helpu i ddeall yr hyn y dylai disgrifiad swydd ei gynnwys, a'r hyn na ddylai ei gynnwys. 

Mae'r ymadroddion canlynol yn cael eu canfod o hyd mewn hysbysebion, disgrifiadau swydd a manylebau person - mae rhai geiriau amgen wedi'u darparu: 


Hyblyg  - newidiwch i 'Agwedd hyblyg at waith' neu 'Dull hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth'


Perchennog car yn hanfodol - newidiwch i 'Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn pryd i fodloni anghenion y gwasanaeth'

'X' blwyddyn o brofiad - dilëwch nifer y blynyddoedd. Ychwanegwch brofiad 'sylweddol' os oes angen


Yn gorfforol ffit - rhaid nodi'r union ofynion, e.e. 'Angen ymestyn a phlygu i godi eitemau o'r llawr ac oddi ar silffoedd'


Cofnod gwaith dibynadwy - dilëwch o'r DS/MP


Diddordebau allanol - dilëwch o'r DS/MP

Dylai rheolwyr gyfeirio at Adnoddau Dynol am gyngor os oes unrhyw amheuaeth ynghylch y geiriad mewn unrhyw ddogfennaeth. 

Cam 5

Rhif Swydd ESR 
Rhaid neilltuo rhif swydd ESR i bob swydd.

Os yw'r swydd hon yn gyfnewidiad union – bydd pob deiliad cyllideb yn gallu cael at restr Sefydliad o Staff Adrannol mewn Swydd sy'n cynnwys y rhifau swydd ESR. Gellir cael yr wybodaeth hon hefyd drwy Share Point neu drwy gysylltu â Gwybodaeth y Gweithlu ar 029 2074 1205 (4-1205).

Fodd bynnag, os yw hon yn swydd newydd neu'n swydd bresennol y mae gofyn newidiadau arni, bydd angen cael rhif swydd ESR drwy lenwi Ffurflen Diwygio Sefydliad

Ar ôl ei chael a'i phrosesu, bydd tîm Gwybodaeth y Gweithlu yn anfon e-bost at y rheolwr llinell dan sylw i gadarnhau'r rhif swydd ESR newydd. 

Cam 6

Rhestr wirio dogfennaeth
Cyn ichi fwrw ymlaen, adolygwch eich rhestr wirio i sicrhau y gallwch ateb y cwestiynau canlynol yn gadarnhaol:.
  • A oes gennych Ddisgrifiad Swydd a Manyleb Person a gytunwyd? 
  • A oes gennych y Ffurflen Iechyd Galwedigaethol [Cymraeg/Saesneg] wedi'i llenwi?
  • A ydych wedi adolygu Gofynion y Gymraeg GIG Cymru?  Pan fydd eich Disgrifiad Swydd wedi'i gymeradwyo, sylwch y bydd angen wedyn cyfieithu'r Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person i'r Gymraeg a bod rhaid gosod fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r ddau ar hysbysebion Sut mae cyfieithu Disgrifiadau Swydd a Manylebau i'r Gymraeg
  • A oes gennych rif ESR priodol? 
  • A ydych chi'n gwybod eich Cod Cost? 

Os ydych wedi ateb ‘Oes’ neu 'Ydw' i'r holl gwestiynau yng Ngham 6 a'ch bod wedi llenwi'r adran gyntaf ar frig y ffurflen Iechyd Galwedigaethol i adlewyrchu'r swydd - symudwch ymlaen i is-dudalen Creu cais am swydd wag.

Dilynwch ni