Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio - Gwirio ac Awdurdodi Tystlythyrau

Bydd y Cydwasanaethau'n parhau i ofyn am dystlythyrau a bydd y rheolwr sy'n penodi'n cael gwybod drwy Trac pan fydd y tystlythyr(au) wedi cyrraedd.

Pan gaiff y tystlythyr neu'r tystlythyrau, bydd gofyn i'r Rheolwr sy'n Penodi wirio a chymeradwyo'r tystlythyr y gofynnwyd amdano gan ddefnyddio'r canllaw.

Os nad allwch weld y botwm  download button (trac) hwn cysylltwch â'r Cydwasanaethau Recriwtio oherwydd efallai bod y tystlythyr wedi'i guddio.

Ar ôl ichi gymeradwyo neu wrthod y tystlythyr(au), bydd y Cydwasanaethau Recriwtio yn cael gwybod drwy Trac a bydd y statws yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r awdurdodiad.

Yn ogystal â thystlythyrau, gan ddefnyddio'r dangosfwrdd, byddwch chi'r rheolwr yn gallu gweld yr wybodaeth sy'n berthynol i'ch swydd benodol.

pre employment checks

Pan fydd yr holl wiriadau cyn cyflogi (a elwir hefyd yn PEC) wedi'u cwblhau, bydd y Cydwasanaethau'n rhoi gwybod pryd y bydd yn briodol cytuno ar ddyddiad dechrau a bydd contract cyflogaeth yn cael ei anfon atoch i'w gyhoeddi.  

Ar ôl ichi gael at Trac dilynwch bob un o'r camau isod:

Dilynwch ni