Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu - Rheoli Newid

Datblygwyd Pecyn Cymorth Rheoli Newid i gynorthwyo ac arwain rheolwyr gyda'r broses o newid. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r Polisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan (OCP).  

Hefyd datblygwyd taflen i helpu staff ymgysylltu'n weithredol â staff eraill.  

 

managing change principles

 

I reoli newid yn effeithiol mae angen i chi:

1. Cyfathrebu ac Ymgynghori

Datblygu strategaeth gyfathrebu fewnol i gyfleu'ch negeseuon allweddol;

Cyfarfod â chynrychiolwyr undebau llafur, fel rhan o'r cytundeb gweithio mewn partneriaeth;

Dilyn Polisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan lle bo hynny'n briodol;

Gwybod beth yw eich dyletswyddau cyfreithiol, cynnwys W&OD ar ddechrau'r broses i gynghori a chefnogi;

Siarad â'ch rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn uniongyrchol trwy gyfathrebu wedi'i dargedu, e.e. staff, cleifion, gofalwyr, ac ati;

Cynnwys pawb wrth wneud penderfyniadau trwy ymgynghori effeithiol ac amserol i:

  • wella dealltwriaeth eich gweithwyr o'r angen am newid ac ennill eu hymrwymiad;
  • nodi a mynd i’r afael â phryderon gweithwyr;
  • defnyddio gwybodaeth a chreadigrwydd eich staff.

Cofiwch: mae cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol bob amser yn bwysig, nid dim ond yn ystod cyfnodau o newid.

2. Deall Emosiynau

Deall y daith emosiynol y mae pob unigolyn yn mynd drwyddi wrth wynebu newid - o glywed y newyddion hyd at ddod i delerau â'r ôl-effeithiau. Mae'r daith hon, fel rheol, yn cynnwys teimlo:

  • Pryder - a allaf ymdopi?
  • Hapusrwydd - o'r diwedd mae rhywbeth yn mynd i newid!
  • Ofn - pa effaith fydd y newid yn ei gael arnaf?
  • Bygythiad - mae'r broblem yn fwy nag yr oeddwn i'n meddwl;
  • Euogrwydd - ai fy mai i oedd methiannau'r gorffennol?
  • Dadrithiad - nid yw hyn i mi, felly rwy'n gadael;
  • Derbyn - efallai na fydd pethau mor ddrwg;
  • Cyffro - rwy'n edrych ymlaen at yr her.
3. Dangos Arweinyddiaeth Gref

yn enwedig mewn prosiect ailgynllunio/ rheoli newid gwasanaeth anodd, trwy:

  • greu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol;

  • cysylltu nodau unigolion a thimau â thargedau sefydliadol;

  • gosod esiampl;

  • cerdded o amgylch a chael eich gweld;

  • creu diwylliant sefydliadol yn seiliedig ar fod yn agored ac yn ymddiriedaeth.

4. Ymgysylltu â Gweithwyr

i gael y gorau o'ch gweithwyr o ran perfformiad a chadarnhau eu hymrwymiad i'r sefydliad

5. Datrys Problemau

Defnyddiwch dechnegau datrys problemau fel:

  • dadansoddiad gweithlu maes
  • dadansoddiad SWOT
  • dadansoddiad achos ac effaith
  • dadansoddiad achos sylfaenol
  • taflu syniadau
  • adeiladu tîm

Change hands

Datblygwyd rhestr wirio i'ch helpu chi i sicrhau fod gennych yr holl gamau yn eu lle i reoli newid yn llwyddiannus - cliciwch yma i gael copi.
Dilynwch ni