Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Hunanladdiad a Hunan-niwed Caerdydd a BroMorgannwg, 2021-24

Gellir atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Gall pob achos o hunanladdiad a hunan-niweidio fod yn gysylltiedig ag ystod eang o ffactorau personol, cymunedol a chymdeithasol. Ceir hefyd anghydraddoldebau mawr o ran hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae’r holl faterion hyn yn sicrhau bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn flaenoriaeth i sefydliadau sy’n gweithio i ddiwallu anghenion iechyd a chymdeithasol pobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae’r strategaeth yn nodi y bydd y sefydliadau hynny’n gweithio gyda’i gilydd i leihau hunanladdiad a hunan-niweidio dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r strategaeth yn disgrifio sut y bydd sefydliadau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein gweledigaeth o roi’r gefnogaeth iawn, ar yr amser iawn, yn y ffordd iawn i bawb sydd mewn perygl ac sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad a hunan-niweidio.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi’r gweithgareddau penodol y byddwn yn eu darparu dros y tair blynedd nesaf i wireddu’r strategaeth.

Mae’r deunydd atodol yn disgrifio, mewn manylder, y dystiolaeth o effaith hunanladdiad a hunan-niweidio ar boblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg ac ar grwpiau penodol o fewn y boblogaeth honno.

Gwnaethom hefyd gynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb ac Iechyd i sicrhau bod y strategaeth yn cydnabod ac yn adlewyrchu anghenion pawb yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

 

Dilynwch ni