Gellir atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Gall pob achos o hunanladdiad a hunan-niweidio fod yn gysylltiedig ag ystod eang o ffactorau personol, cymunedol a chymdeithasol. Ceir hefyd annhegwch mawr o ran hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae’r holl faterion hyn yn sicrhau bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn flaenoriaeth i sefydliadau sy’n gweithio i ddiwallu anghenion iechyd a chymdeithasol pobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r Cynllun Strategol yn nodi y bydd y sefydliadau hynny’n gweithio gyda’i gilydd i leihau hunanladdiad a hunan-niweidio dros y pum mlynedd nesaf (2025-2030). Mae cynllun gweithredu yng nghefn y ddogfen sy'n disgrifio'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd gyda'n gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cynllun Strategol Atal Hunanladdiad a Hunan-niwedio Caerdydd a Bro Morganwg (2025-2030)