Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hanfodol i blant. Mae tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn arbennig o bwysig ar gyfer datblygiad iach, a gall buddsoddi mewn plant yn yr oedran cynnar hwn wella gweddill eu bywydau yn sylweddol.
Mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn ceisio hybu iechyd plant oedran cyn-ysgol, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r cynllun yn cyrraedd plant ifanc drwy sefydliadau gofal plant maent yn eu mynychu (meithrinfeydd, grwpiau plant a gwarchodwyr plant) ac mae’n annog ymddygiad iach o’r oedran cynharaf un.
Mae’r cynllun wedi’i rannu’n 8 maes pwnc iechyd:
Mae sefydliadau gofal plant yn casglu tystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni meini prawf ym mhob un o’r meysydd uchod. Darperir cymorth ac anogaeth drwy ddigwyddiadau hyfforddiant, cylchlythyrau, adnoddau ac ymweliadau gan aelod o Dîm Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg. Mae gwaith partneriaeth yn allweddol ar gyfer llwyddiant ac mae llawer o wahanol sefydliadau ac unigolion yn cymryd rhan. Mae gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar y potensial i wneud cyfraniad enfawr i iechyd a llesiant plant yn eu gofal, ac mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn gwneud y gorau o’u sgiliau a’u profiad. I greu cymdeithas hapus ac iach, mae angen i ni fagu ein plant mewn modd hapus ac iach.
Mae’r prosiectau hyn yn rhan o Gynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg:
Iechyd a Llesiant Meddyliol ac Emosiynol
Rydym wedi ymuno â Barnardos i redeg y prosiect Hyrwyddo Strategaethau Meddwl Amgen (PATHS) sy’n helpu plant i ddod yn fwy ymwybodol o’u hemosiynau, i wella eu geirfa, ac i ddatblygu sgiliau mewn cyfeillgarwch, caredigrwydd, rhannu, hunanreolaeth a sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol. Mae caredigrwydd a gofal amdanoch eich hun ac eraill yn cael eu gwerthfawrogi.
Bwyta’n Iach
Rydym yn helpu lleoliadau i ddilyn y canllawiau diweddaraf, fel bod y bwyd a gynigir i blant nid yn unig yn iach ac yn faethlon, ond bod amseroedd prydau bwyd a byrbrydau yn brofiadau pleserus a chymdeithasol hefyd. Mae plant yn helpu i baratoi a dewis eu bwydydd eu hunain gymaint â phosibl. Rydym yn helpu lleoliadau i wneud gwaith coginio iach, drwy ddarparu hyfforddiant, offer ac adnoddau.
Hyrwyddo Gweithgarwch Corfforol
Rydym yn helpu lleoliadau i gynllunio eu sesiynau fel bod plant mor actif â phosibl. Mae llawer o weithgareddau yn digwydd yn yr awyr agored ac, yn aml, mae gan leoliadau ardal dan do sy’n gwneud hyn hyd yn oed yn haws. Rydym yn sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn sesiynau gweithgareddau dan do, a hynny yn aml i gerddoriaeth, sy’n helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau. Anogir teuluoedd i deithio i’r lleoliad ac o’r lleoliad mewn modd actif, efallai drwy gerdded neu drwy fynd ar sgwter.
Creu Amgylchedd Iach
O oedran ifanc, mae plant yn dysgu am leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cynnyrch, a lleihau gwastraff. Anogir garddio. Rydym yn rhedeg prosiect tyfu tatws blynyddol, gan helpu plant i ddysgu am darddiad bwyd, a sut i feithrin rhywbeth byw. Rydym yn helpu lleoliadau i greu amgylchedd cynnes a chroesawgar.
Hylendid a Diogelwch
Mae atal lledaeniad heintiau yn hanfodol mewn lleoliad gofal plant. Rydym yn darparu adnoddau a syniadau i hyrwyddo golchi dwylo’n dda, ac rydym yn pwysleisio pwysigrwydd imiwneiddio.
Mae'r cyngor a rown i leoliadau gofal plant yn seiliedig ar ymchwil a chanllawiau cyfredol. Dyma rai enghreifftiau:
- Rydym yn annog bwyta’n iach yn seiliedig ar y ‘Canllawiau Bwyta’n Iach’ a gwybodaeth o ‘Canllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant’ Llywodraeth Cymru.
- Rydym yn dilyn Canllawiau’r GIG ar weithgarwch corfforol ar gyfer plant o dan 5 mlwydd oed.
- Rydym yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ‘Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant’ wrth drafod materion yn ymwneud â diogelwch a hylendid.
- Rydym yn datblygu prosiect i wella’r nifer sy’n derbyn imiwneiddiadau.
- Rydym yn helpu pobl i fforddio bwyd iach drwy hyrwyddo talebau Cychwyn Iach.
Mae llawer o leoliadau gofal plant a theuluoedd yn credu bod y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol:
Catherine Perry, Uwch Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd: Catherine.Perry@wales.nhs.uk
Victoria Extence, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd: victoria.extence@wales.nhs.uk