Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn ffliw a brechlyn COVID-19 hydref/gaeaf 2024/25

Mae Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol (WRVP) ar gyfer 2024/25 wedi’i lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. 
 

Y nod yw cynnig brechlynnau COVID-19 a’r ffliw i’r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael o’r ddau firws, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, plant a menywod beichiog. 

Dyma restr o bwy sy'n gymwys yr hydref a'r gaeaf hwn: 

Brechiad rhag y ffliw 
  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2024   
  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)    
  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)     
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol     
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024)     
  • Menywod beichiog    
  • Gofalwyr sy’n 16 mlwydd oed ac yn hŷn   
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan     
  • Pobl ag anabledd dysgu    
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen    
  • Yr holl staff mewn cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid  

Bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant a phobl ifanc yn dechrau ym mis Medi. Bydd y rhai 2 a 3 oed yn cael eu brechlynnau yn bennaf mewn meddygfeydd, tra bydd plant cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd am eu rhai nhw yn yr ysgol. Bydd y broses o gyflwyno brechlyn y ffliw ymhlith oedolion yn dechrau ym mis Hydref. 

Brechiad COVID-19 
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)  
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn  
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2025)  
  • Gofalwyr di-dâl  
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen  
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn  

Bydd y broses o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 ar gyfer grwpiau cymwys yn dechrau ym mis Hydref.  

Bydd pob person cymwys yn cael ei wahodd trwy lythyr i dderbyn eu brechiadau COVID-19 a’r ffliw naill ai yn eu practis meddyg teulu, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol agosaf.  

Ar y cam hwn yn y rhaglen ni fyddwch yn gallu cerdded i mewn i glinig brechu cymunedol heb apwyntiad.  

I’r rhai sydd ag apwyntiadau, mae cyfeiriadau’r canolfannau brechu cymunedol fel a ganlyn: 

  • Hyb Trelái: Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái, CF5 5BQ  
  • Ysbyty'r Barri: Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH 
  • Canolfan Iechyd Butetown: Plas Iona, Butetown, CF10 5HW 
  • Ysbyty Rookwood: Heol y Tyllgoed, Llandaf, CF5 2YN 
  • CVC Sblot (hen ganolfan hamdden a hen MVC)   
  • Hyb Cymunedol Penarth  
  • Hyb Maelfa: Round Wood, Llanedeyrn, CF23 9PF 

Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau’r ffliw a COVID-19 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae gwybodaeth am frechlynnau mewn fformatau hygyrch hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Dilynwch ni