Y nod yw cynnig brechlynnau COVID-19 a’r ffliw i’r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd yn ddifrifol wael o’r ddau firws, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, plant a menywod beichiog.
Dyma restr o bwy sy'n gymwys yr hydref a'r gaeaf hwn:
Bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant a phobl ifanc yn dechrau ym mis Medi. Bydd y rhai 2 a 3 oed yn cael eu brechlynnau yn bennaf mewn meddygfeydd, tra bydd plant cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd am eu rhai nhw yn yr ysgol. Bydd y broses o gyflwyno brechlyn y ffliw ymhlith oedolion yn dechrau ym mis Hydref.
Bydd y broses o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 ar gyfer grwpiau cymwys yn dechrau ym mis Hydref.
Bydd pob person cymwys yn cael ei wahodd trwy lythyr i dderbyn eu brechiadau COVID-19 a’r ffliw naill ai yn eu practis meddyg teulu, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol agosaf.
Ar y cam hwn yn y rhaglen ni fyddwch yn gallu cerdded i mewn i glinig brechu cymunedol heb apwyntiad.
I’r rhai sydd ag apwyntiadau, mae cyfeiriadau’r canolfannau brechu cymunedol fel a ganlyn:
Os yw pobl yn dymuno aildrefnu neu ganslo eu hapwyntiadau, gallant ffonio ein canolfan alwadau ar 02921 841234.Fel arall, gallant ganslo neu aildrefnu trwy ymateb i'r neges destun a dderbyniwyd ganddynt ar gyfer eu hapwyntiad.
Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau’r ffliw a COVID-19 ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae gwybodaeth am frechlynnau mewn fformatau hygyrch hefyd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.