Mae'n well na chael ffliw!
Ni all y brechlyn ffliw roi ffliw i chi. Fodd bynnag, gan ei fod yn gweithio trwy ysgogi system imiwnedd eich corff, efallai y bydd gennych rai symptomau ysgafn tebyg i ffliw am ddiwrnod neu ddau wedi hynny.
Bydd hyn yn fyr, ac ni allwch drosglwyddo'r symptomau i neb arall.
Gall y ffliw ei hun eich gadael chi yn flinedig iawn ac yn methu â chodi o'r gwely am ddyddiau.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.