I rhoi cydsyniad i'ch plentyn gael y brechlyn ffliw y gaeaf hwn, llenwch y ffurflen trwy'r ddolen hon
Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau sy'n lledaenu'n hawdd pan fydd pobl yn pesychu neu'n tisian. Mae'n ddifrifol iawn. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae plant yn dal ac yn lledaenu'r ffliw yn haws. Mae plant mewn mwy o berygl o niwed difrifol. Gall afiechydon difrifol gynnwys broncitis a niwmonia (heintiau'r ysgyfaint) a heintiau'r glust. Mae rhai plant yn mynd mor sâl mae angen iddynt fynd i'r ysbyty.
Mae rhagor o wybodaeth am y ffliw ar gael gan: Brechiad Ffliw - Iechyd Cyhoeddus Cymru
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y: Ffliw (safle allanol)[DI2]
Mae'n bwysig iawn i blant gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae brechlynnau ffliw yn gyflym, yn ddiogel iawn a gallent amddiffyn eich plentyn rhag wythnosau o salwch difrifol.
Caiff y brechiad ffliw chwistrell trwyn (Fluenz) ei ddarparu mewn ysgolion bob blwyddyn o fis Medi i fis Rhagfyr ac fe'i cynigir i bob plentyn o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11.
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn chwistrell trwyn gan mai dyma'r brechlyn ffliw gorau ar eu cyfer. Mae'n niwl mân sy'n cael ei chwistrellu i fyny'r trwyn a gellir ei roi o ddwy oed ymlaen. Mae'n ddiboen ac yn ddiogel, ac nid yw'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc fel arfer yn ofidus ar ôl cael brechlyn ffliw chwistrell trwyn.
Mae gan y brechlyn ffliw chwistrell trwyn olion gelatin moch (porc) wedi'i buro, a gaiff ei ddefnyddio hefyd mewn llawer o feddyginiaethau eraill. Bydd brechlyn ffliw i’w chwistrellu heb gelatin ar gael mewn ysgolion o fis Medi 2025.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.