I rhoi cydsyniad i'ch plentyn gael y brechlyn ffliw y gaeaf hwn, llenwch y ffurflen trwy'r ddolen hon
Mae sgil-effeithiau o'r brechlyn ffliw, os o gwbl, fel arfer yn ysgafn iawn a byddant yn diflannu ar ôl ychydig ddyddiau. Nid yw'r brechlyn ffliw yn achosi’r ffliw.
Yn achos brechlyn i’w chwistrellu, gall hefyd achosi poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwydd yn safle'r pigiad.
Os ydych chi'n poeni am eich plentyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i gael cyngor.
Os nad yw eich plentyn wedi cael y brechlyn ffliw, yna mae'n fwy tebygol y bydd yn dal a lledaenu'r ffliw yn haws. Bob blwyddyn, mae angen gofal ysbyty ar filoedd o blant nad oes ganddynt gyflwr iechyd oherwydd y ffliw. Bydd brechu eich plentyn yn amddiffyn eraill sydd mewn mwy o berygl fel babanod, menywod beichiog a phobl hŷn.
Gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag alergedd i wyau gael y brechlyn chwistrell trwyn heb unrhyw broblemau. Efallai y bydd angen atgyfeirio'r nifer fach o unigolion sydd wedi bod angen triniaeth gofal dwys ar gyfer anaffylacsis (adwaith alergaidd prin sy'n peryglu bywyd) i wy yn flaenorol at arbenigwr. Cysylltwch â Thîm Imiwneiddio’r Ysgol i drafod ymhellach. Mae pigiadau brechlyn ffliw heb wyau ar gael.
Os oes gan eich plentyn rai cyflyrau iechyd, fel asthma a diabetes, mae'n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn gan ei fod mewn mwy o berygl o salwch difrifol o'r ffliw.
Ar ddiwrnod y sesiwn frechu, bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i’ch plentyn ble a phryd i fynd. Mae’r brechiadau fel arfer yn cymryd lle yn neuadd yr ysgol neu weithiau mewn stafell ddobarth.
Bydd eich plentyn yn cael eu tywys i’r stafell gan athro neu aelod o staff a bydd eich plentyn yn eistedd gyda un o’r nyrysys imiwneiddio neu weithiwr cymorth iechyd profiadol. Bydd y nyrs neu weithiwr cymorth iechyd yn cyflwyno ei hunain ac yn esbonio i’ch plentyn beth yw’r frechlyn ffliw a sut mae’n cael ei weinyddu.
Os yw’ch plentyn yn nerfus, bydd y nyrs neu weithiwr cymorth iechyd yn helpu gwneud eich plentyn deimlo’n gyfforddus. Bydd y nyrs neu weithiwr cymorth iechyd yn gofyn i’ch plentyn gadarnhau ei enw, dyddiad geni, y rhif sydd ar ei ddrws ffrynt ac enw’r person sydd yn cydsynio. Byddant yn gwneud yn siwr bod eich plentyn yn ddigon iach i dderbyn y brechiad ffliw.
Ar adegau, bydd angen i’r nyrs neu weithiwr cymorth iechyd gysylltu gyda’r rhiant/warcheidiad sy’n cydsynio felly gwnewch yn siwr bod chi’n rhoi rhif cysywllt cywir ar y ffurflen cydsynio a byddwch ar gael i dderbyn unrhyw alwad.
Yn dilyn y brechiad, bydd eich plentyn yn derbyn sticer ac yn aros gyda’r nyrs neu weithiwr cymorth iechyd am rai munudau a wedyn byd athro neu aelod o staff yn ei tywys yn ôl i’r dosbarth. Rydym yn annog i’ch plentyn i yfed digon o hylif yn dilyn y brechiad a gwnewch yn siwr ei bod yn cael brecwast da cyn dod i’r ysgol ar fore y sesiwn frechu.
Mae’r brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn cynnwys olion gelatin moch (porc) wedi’i buro a ddefnyddir hefyd mewn llawer o feddyginiaethau eraill. Nid yw’r pigiadau ffliw yn cynnwys gelatin ac maent ar gael os byddai'n well gennych i'ch plentyn gael hyn fel opsiwn. O fis Medi 2025 ymlaen, bydd brechlyn ffliw i’w chwistrellu heb gelatin ar gael mewn ysgolion/lleoliadau cymunedol. Bydd angen i rieni fynychu gyda'u plentyn oedran ysgol gynradd ar gyfer y brechiad hwn yn yr ysgol neu'r clinig cymunedol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gelatin moch yma:phw.nhs.wales/PorcineGelatine
Dylai'r rhai sydd angen brechiad ffliw heb gelatin lenwi'r ffurflen ganiatâd drwy dicio'r blwch sy'n nodi 'YDW'. Mae gen i gyfrifoldeb rhiant ac rwy'n cytuno i'r plentyn a enwir ar y ffurflen hon dderbyn y Brechiad Ffliw Heb Gelatin i’w chwistrellu.
Bydd angen i rieni/gwarcheidwaid fod yn bresennol ar gyfer brechiad eu plentyn ysgol gynradd oherwydd ei fod yn bigiad. Byddwch yn cael dyddiad ac amser penodol i fynychu ysgol eich plentyn. Os na allwch fynychu yn ystod yr amser a'r dyddiad a roddir i chi, cewch wahoddiad i glinig dal i fyny cymunedol.
Bydd y pigiad yn cael ei roi ym mraich uchaf eich plentyn.
Mae’r brechlyn ffliw trwynol yn chwistrell rhwydd a chyflym ym mhob ffroen ac mae’r frechlyn pigiad di-gelatin yn bigiad mewngyhyrol yn y fraich uwch.
Y brechlyn ffliw trwynol yw’r un sy’n cael ei argymell i’ch plentyn, ond mae’r ddau frechlyn yn cynnig amddiffyniad i’ch plentyn.
Nid yw’r frechlyn pigiad yn cynnwys gelatin cig moch. Arghymhellir y frechlyn hwn os na ellir eich plentyn dderbyn y frechlyn ffliw trwynol oherwydd rhesymau meddygol neu i osgoi’r gelatin yn y frechlyn.
Mae'r brechlyn chwistrell trwyn yn ddiogel iawn. Nid yw plant nac oedolion heb eu brechu mewn perygl o ddal y ffliw o'r brechlyn, naill ai trwy fod yn yr un ystafell lle rhoddwyd y brechlyn ffliw neu drwy fod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi cael ei frechu'n ddiweddar.
Er bod plant sydd wedi’u brechu yn gallu bwrw’r feirws am ychydig ddyddiau ar ôl y brechiad, mae’n llai tebygol o ledaenu o berson i berson na’r haint naturiol.
Mae hyn yn wahanol i haint ffliw naturiol, sy'n lledaenu'n hawdd yn ystod tymor y ffliw.
Os oes gan eich plentyn dymheredd uchel, arhoswch nes eu bod yn teimlo'n well cyn cael y brechlyn ffliw. Os oes ganddyn nhw drwyn wedi’i flocio neu drwyn yn rhedeg, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw aros i gael y brechlyn chwistrell trwyn pan fyddan nhw'n teimlo'n well.
Ydy - gall eich plentyn gael y brechlyn ffliw ar yr un pryd â brechlynnau eraill.
Mae amddiffyniad rhag y brechlyn ffliw yn lleihau gydag amser ac mae'r mathau o feirws ffliw y mae'r brechlyn yn amddiffyn rhagddynt yn newid bob blwyddyn. Dyna pam ei bod hi'n bwysig cael y brechlyn ffliw bob blwyddyn.
Rydym yn argymell yn gryf bod eich plentyn yn cael y brechiad er lles eu hiechyd. Os nad ydych am gydsynio i'r brechlyn, agorwch y ffurflen gydsynio a dewiswch 'NA'. Mae gen i gyfrifoldeb rhiant ac rwy'n cytuno i'r plentyn a enwir ar y ffurflen hon dderbyn y Brechiad Ffliw.
Gofynnwn i chi roi rheswm dros eich dewis er mwyn i ni ddeall eich penderfyniad yn well.
Os nad yw'ch plentyn yn mynychu'r ysgol neu os yw'n cael ei addysgu gartref, gallant gael y brechlyn ffliw o hyd naill ai gan eu meddyg teulu neu yn un o'n clinigau dal i fyny cymunedol. Os hoffech iddyn nhw ei gael yn ein clinigau dal i fyny cymunedol, cwblhewch y ffurflen ganiatâd a byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion ar sut i wneud apwyntiad.
Am bryderon a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: 02920 907661/664 neu Immunisation.Cavuhbschoolnursing@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.