Gall bwyta deiet iach a chytbwys helpu i atal salwch sy'n gysylltiedig â deiet a bydd yn rhoi'r egni a'r maetholion sydd eu hangen arnoch i gadw'n heini a chynnal pwysau iach.
Mae bwyta'n dda yn helpu i leihau'r risg o rai cyflyrau gan gynnwys clefyd y galon, strôc, rhai mathau o ganser, diabetes ac osteoporosis. Yn y pen draw, mae bwyta'n iach yn eich helpu i deimlo'n wych, i gael mwy o egni ac i sefydlogi'ch hwyliau.
Pwysau Iach Cymru Iach yw'r strategaeth genedlaethol 10 mlynedd i leihau ac atal gordewdra yng Nghymru. Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a'r Fro yn cyflawni hyn drwy ei Fframwaith Bwyd a Symud Da yn ogystal ag amrywiaeth o gamau gweithredu sy'n canolbwyntio ar annog deiet iach.
Drwy gydol ein bywydau, mae pethau allweddol y gallwn ni i gyd eu gwneud i'n helpu i heneiddio'n dda ac aros mor iach â phosibl, fel bwyta deiet iach a chytbwys.
Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro yn gweithio gyda phartneriaid i helpu pobl Caerdydd a Bro Morgannwg i wella eu dewisiadau bwyd, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt fynediad at fwyd iachach, gan gynnwys:
Synnwyr Bwyd Cymru
Nod Synnwyr Bwyd Cymru yw dylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.
Sefydlwyd Synnwyr Bwyd Cymru yn 2018 i hyrwyddo dull traws-sector ar gyfer y system fwyd yng Nghymru ac mae'n gronfa o fewn Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, a gynhelir gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a'r Llywodraeth ledled Cymru i greu system fwyd a ffermio sy'n dda i bobl ac yn dda i'r blaned. Er mwyn cyflawni hyn, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn credu y dylid integreiddio'r amgylchedd; iechyd a lles; cyfiawnder cymdeithasol, a'r economi wrth lunio pob polisi yng Nghymru.
Gellir cyflawni'r dull 'bwyd ym mhob polisi' hwn drwy ymchwil, cydweithio traws-sector a thrwy ysgogi Mudiad Bwyd Da yng Nghymru, gan gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion bwyd ac annog cyfranogiad eang mewn gweithgaredd sy'n gysylltiedig â bwyd. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn helpu i ddatblygu'r Mudiad Bwyd Da hwn drwy gyflwyno nifer o raglenni sy'n gysylltiedig â bwyd ledled Cymru – llawer ohonynt fel rhan o bartneriaethau yn y DU.
Bwyd Caerdydd
Mae Bwyd Caerdydd yn bartneriaeth ledled y ddinas rhwng unigolion a sefydliadau. Mae'n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer cysylltu'r bobl a'r prosiectau sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy yn amgylcheddol a moesegol ledled y ddinas; mae'n gweithredu fel llais dros newid ehangach. Yn 2024, enillodd Caerdydd statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sef y lle cyntaf yng Nghymru ac un o'r 5 lle cyntaf yn y DU i ennill y wobr fawreddog. Mae Bwyd Caerdydd wedi datblygu 5 nod bwyd: Caerdydd iach, Caerdydd sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol, mudiad bwyd sy'n grymuso, economi fwyd lleol ffyniannus, system fwyd deg a chysylltiedig.
Gall pawb yng Nghaerdydd ymuno â'r mudiad drwy 'Wneud Adduned' neu drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Bwyd Caerdydd
Bwyd y Fro
Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth o unigolion ymroddedig, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau sy'n cydweithio i adeiladu system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy yn y Fro. Cynhelir y bartneriaeth o fewn Tîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae wedi sefydlu Grŵp Llywio traws-sector i helpu i arwain y gwaith hwn gyda chynrychiolwyr o gyfarwyddiaethau ar draws Cyngor Bro Morgannwg, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, FareShare Cymru, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, Glamorgan Smallholders, Big Fresh Catering, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cywain.
Mae Bwyd y Fro yn rhan o rwydwaith cynyddol o bartneriaethau bwyd sy'n mabwysiadu dull systemau sy'n seiliedig ar leoedd ar gyfer bwyd iach a chynaliadwy o dan raglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (SFP) ledled y DU. Ar draws Cymru, mae 22 o bartneriaethau bwyd eisoes yn bodoli, ac mae 10 ohonynt yn aelodau gweithredol o'r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae Bwyd y Fro yn gallu cysylltu â phartneriaethau bwyd o bob un o'r pedair gwlad a dysgu oddi wrthynt, yn enwedig gyda phartneriaethau bwyd eraill o bob rhan o Gymru drwy Synnwyr Bwyd Cymru – partner cyflawni cenedlaethol SFP yng Nghymru.
Ers dod ynghyd yn gyntaf yn 2017, mae Bwyd y Fro wedi cynnal gwyliau a llwybrau bwyd, wedi buddsoddi mewn prosiectau tyfu bwyd cymunedol a phantrïau bwyd, wedi cefnogi gweithdai sgiliau coginio a maeth ac wedi mynd ymlaen i ennill gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar bob lefel i sicrhau bod bwyd wedi'i wreiddio mewn gwaith strategol ehangach. Gall unrhyw un fod yn rhan o bartneriaeth Bwyd y Fro: unwaith bob tri mis, rydym yn cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb i roi cyfle i bawb gysylltu, rhannu syniadau, a ffurfio llais cyfunol dros newid.
Yn ddiweddar, mae Bwyd y Fro wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid i gyd-ddatblygu Strategaeth Bwyd y Fro 2025-2030 newydd [dolen i ddilyn], adeiladu ar ein sylfeini cryf yn y Fro a gosod llwybr tuag at ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol trwy nodau uchelgeisiol, canlyniadau clir a chamau ymarferol. Rhagor o wybodaeth yma
Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu
Mae cadw at bwysau iach wedi dod yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r risg o gyflyrau iechyd hirdymor fel diabetes, clefyd y galon a chanserau.
Fodd bynnag, yn ein hamgylchedd presennol mae'n anodd cyflawni hyn gan fod y bwyd o'n cwmpas yn aml yn blaenoriaethu cyfleustra dros iechyd, a gall fod yn uchel mewn braster, siwgr a halen. O ganlyniad, rydym yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau, pysgod olewog a ffeibr deietegol, y bwydydd sy'n ein helpu i fod yn iach.
Rydyn ni'n gwybod bod yr hyn sy'n ein hamgylchynu yn ein siapio. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol i gynnig bwyd a diod mwy hygyrch, iach a chynaliadwy, gan ddarparu amgylchedd iachach i staff, cleifion ac ymwelwyr. Rydym yn gweithredu set o safonau sy'n cael eu monitro'n ofalus i sicrhau bod mwy o opsiynau iach ar gael.
Mae ein cydweithwyr deieteg wedi cynhyrchu Fideo Canllaw Bwyta'n Dda i unrhyw un sy'n chwilio am gyngor cyffredinol ar sut i fwyta deiet iach a chytbwys.
Ewch i dudalen Cadw Fi'n Iach: Bwyta'n Dda yma.
Os hoffech chi syniadau ar brydau iachach y gallwch chi eu gwneud gartref, mae yna rai awgrymiadau ar gyfer ryseitiau blasus ac iach isod.
Dewch o hyd i syniadau am ryseitiau iachach yma.
Os ydych chi'n gwella o salwch, mae rhagor o wybodaeth ynghylch Bwyta i Wella - Cadw Fi'n Iach yma.
Gyda dros 60% o bobl o Gaerdydd a'r Fro dros bwysau iach, mae'n bwysig bod cefnogaeth yn cael ei darparu i helpu pobl i fwyta'n dda a rheoli pwysau iachach, gan osgoi afiechyd. Yn ogystal â'n prosiectau, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o BIP Caerdydd a'r Fro sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau i fynd i'r afael â hyn.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y gwasanaethau i gefnogi pobl i gynnal pwysau iachach, gallwch ymweld â gwefan Rheoli eich Pwysau - Cadw Fi'n Iach yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am faeth a sut i gynnal deiet cytbwys ac iach, mae yna amrywiaeth o gyrsiau gan y timau deieteg lleol i gefnogi pobl i wella eu hiechyd trwy fwyta'n iach.
Cyrsiau Cyhoeddus Sgiliau Maeth am Oes – Sgiliau Maeth am Oes® (yn cynnwys Bwyd Doeth)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm:
Rhianon Urquhart, Arweinydd Bwyta'n Iach: Rhianon.Urquhart@wales.nhs.uk
Louise Denham, Bwyd y Fro: Louise.Denham@wales.nhs.uk
Lucinda Jones, Bwyd Caerdydd: lucinda.jones4@wales.nhs.uk
Helen Griffith, Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu:
Rachel Sanderson, Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Tai Bwyta Ysbytai a Safleoedd Manwerthu:
Synnwyr Bwyd Cymru: foodsensewales@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.