Neidio i'r prif gynnwy

Ffyrdd o Wella ein Hiechyd

Rhoi'r gorau i smygu

  • Rhoi’r gorau i smygu yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud i wella’ch iechyd.
  • Nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi, mae'r manteision iechyd yn dechrau ar unwaith.
  • Bydd rhoi'r gorau iddi yn gwella eich iechyd ac yn amddiffyn y bobl o'ch cwmpas rhag mwg ail-law niweidiol.
  • Bydd rhoi'r gorau i smygu hefyd yn arbed arian i chi.

Rydych chi dair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu gan ddefnyddio Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu’r GIG na phe byddech yn ceisio rhoi’r gorau iddi ar eich pen eich hun.

 

Gwybodaeth a chymorth

Help me quit logo

  • Helpa Fi i Stopio yw brand rhoi'r gorau i smygu cenedlaethol y GIG ar gyfer Cymru.
  • Mae cynghorwyr lleol yn darparu cymorth arbenigol a meddyginiaeth rhoi'r gorau i smygu AM DDIM. Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan Helpa Fi i Stopio neu ffoniwch 0800 085 2219 am ddim, tecstiwch HMQ i 80818 (cost y neges destun yw un neges cyfradd safonol) neu sganiwch y cod QR.
  • Mae gan y wefan Cadw Fi'n Iach adran Rhoi'r Gorau i Smygu
  • ASH Cymru
Cadw’n heini

  • Symudwch yn fwy ac yn amlach gan anelu at o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol i egnïol yr wythnos.
  • Gall cerdded yn gyflym am ddim ond 10 munud ddod â manteision iechyd.
  • Mae gweithgarwch corfforol yn cyfrannu at lesiant ac mae’n hanfodol ar gyfer iechyd da.
  • Ceisiwch gynnwys cerdded a beicio yn eich trefn ddyddiol drwy gerdded i’r siop, i’r gwaith, i’r ysgol, neu wrth ymweld â theulu a ffrindiau.
  • Rhowch gynnig ar weithgareddau newydd mewn canolfannau lleol, gan gynnwys cryfder a chydbwysedd ar gyfer pobl hŷn
Gwybodaeth a chymorth

Bwyta’n iach

  • Gall bwyta’n dda eich helpu i deimlo’n well, i gynnal pwysau iach ac i leihau’r risg o rai cyflyrau
  • Nid yw bwyta’n iach yn ymwneud â hepgor rhai bwydydd neu ddilyn deiet arbennig, gall pob math o fwyd gael ei gynnwys. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cael y cydbwysedd yn iawn.
  • Bwytewch 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd
  • Newidiwch fyrbrydau a diodydd afiach am rai iachach. Mae’n well osgoi byrbrydau sy’n llawn braster a siwgr megis creision, bisgedi a diodydd sydd â llawer o siwgr ynddynt.
Gwybodaeth a chymorth

Little girl cooking

Brechiadau

  • Mae imiwneiddio am ddim, yn gyflym, ac yn hynod effeithiol wrth amddiffyn rhag afiechydon annymunol a allai fod yn ddifrifol.
  • Mae sicrhau eich bod yn cael eich brechiadau diweddaraf yn eich amddiffyn chi, eich teulu a'ch cymuned.
Gwybodaeth a chymorth

Nurse

Iechyd Meddwl a Llesiant

Image of woman in coat and scarf, outside in the snow.

  • Mae llesiant meddyliol yn ymwneud â “theimlo’n dda a byw’n dda”. Mae pawb yn profi cyfnodau da a chyfnodau drwg ond os yw’r cyfnodau drwg yn ddifrifol ac maent yn effeithio ar eich ffordd o fyw o ddydd i ddydd, mae’n well siarad â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs.
  • Problemau iechyd meddwl yw’r ail reswm mwyaf cyffredin dros fynd i weld y meddyg.
  • Gall siarad am lesiant meddyliol a gofyn am gefnogaeth helpu.
  • Mae pethau y gallwn eu gwneud i wella ein llesiant meddyliol yn cynnwys bod yn gorfforol egnïol, ymgysylltu â phobl, rhoi i eraill, (diolch, gwên, gwirfoddoli), dysgu rhywbeth newydd (llyfr, cwrs ar-lein, rysáit...), a chymryd amser i fwynhau bywyd a bod yn y foment.
Gwybodaeth a chymorth

Elderly man holding a ball sat next to a younger woman

Alcohol

Pint of beer

  • Sicrhewch eich bod yn cadw faint o alcohol rydych chi’n ei yfed o fewn y cyfyngiadau a argymhellir, sef dim mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos ar gyfer dynion a menywod – sef potel a hanner o win neu chwe pheint o gwrw.
  • Sicrhewch eich bod yn cael sawl diwrnod heb alcohol bob wythnos.
  • Osgowch alcohol os ydych chi’n feichiog neu’n ceisio beichiogi.
Gwybodaeth a chymorth

Iechyd rhywiol

Couple in bed

  • Mae iechyd rhywiol yn golygu gofalu amdanoch chi'ch hun ac eraill.
  • Mae'n helpu i atal heintiau, HIV, a beichiogrwydd heb ei gynllunio ac mae hefyd yn golygu teimlo'n dda am bwy ydych chi a chael cydberthnasau diogel ac iach.
Gwybodaeth a chymorth

Hands together

Am wybodaeth a chyngor ar gydberthnasau, atal cenhedlu ac iechyd rhywiol gan gynnwys sut i archebu pecyn profi gartref ar gyfer Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol ewch i:

Atal cwympiadau

Older lady in hat

  • Wrth i ni heneiddio, efallai y byddwn yn dechrau teimlo ychydig yn ansefydlog ar ein traed. Gall hyn gynyddu'r risg y byddwn yn cwympo.
  • Oeddech chi'n gwybod y bydd traean o bobl dros 65 oed yn cwympo bob blwyddyn? Gall cwympo arwain at anaf, effeithio ar ein hyder a'n hatal rhag gwneud y pethau rydyn ni'n eu mwynhau.
  • Y newyddion da yw nad yw cwympiadau yn rhan anochel o heneiddio. Mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i wella ein cryfder a'n cydbwysedd a lleihau ein risg o gwympo

     

Gwybodaeth a chymorth

  • Am wybodaeth, cyngor a gwasanaethau ar eich helpu i heneiddio'n dda a lleihau eich risg o gwympo, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach

 

 

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni