Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltu i rannu canmoliaeth, adborth cyffredinol a chwynion

Hoffai Tîm Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro glywed gennych chi.

Rhannwch unrhyw ganmoliaeth, adborth/ceisiadau cyffredinol a/neu gwynion gyda'r tîm fel y gallwn barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn a sicrhau eu bod yn bodloni gwerthoedd a Dyletswydd Ansawdd y Bwrdd Iechyd.

Ar gyfer canmoliaeth – profiadau cadarnhaol o'n gwasanaethau sydd wedi bodloni neu ragori ar y safonau – rydym yn eich annog i siarad â ni'n uniongyrchol neu lenwi'r ffurflen adborth hon. Rydym yn cofnodi ac yn rhannu canmoliaeth o fewn y tîm i ddangos tystiolaeth o bethau rydym yn eu gwneud yn iawn.

Am adborth cyffredinol a/neu geisiadau gwasanaeth, unwaith eto, cysylltwch â ni'n uniongyrchol neu llenwch ein ffurflen adborth. Bydd yr holl adborth yn cael ei gofnodi a'i rannu i lywio gwelliant parhaus.

Ar gyfer cwynion – profiadau negyddol gydag allbynnau neu wasanaethau ein tîm nad ydynt wedi bodloni'r safonau neu'r gwerthoedd disgwyliedig – defnyddiwch y broses gwyno ffurfiol: Cwynion - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Os hoffech chi siarad ag aelod o Dîm Iechyd y Cyhoedd am eich cwyn, mae croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt Tîm Iechyd y Cyhoedd yma.

I gael gwybod mwy am ein gwaith, ewch i'n tudalennau gwe. Mae ein blaenoriaethau a'n gweithgarwch (presennol ac arfaethedig) wedi'u nodi yma: Cynllun Iechyd y Cyhoedd Hirdymor Caerdydd a'r Fro 2024-2035.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni