Mae GIG 111 Cymru ar gael 24 awr y dydd a gellir cael mynediad ato ar-lein a thrwy ffonio’r gwasanaeth yn uniongyrchol am ddim.
Mae gwefan GIG 111 Cymru yn darparu ystod o wybodaeth am gyflyrau iechyd a salwch, gwiriwr symptomau a chanllawiau ar bwy y gallwch gysylltu â nhw i gael y gofal iawn, y tro cyntaf.
Yng Nghaerdydd, GIG 111 Cymru yw’r llwybr y byddech yn ei ddilyn pe bai angen i chi fynd i’r Uned Achosion Brys, yr Uned Mân Anafiadau neu gael mynediad at ofal y Tu Allan i Oriau.
Os yw eich cyflwr iechyd yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, yna dylech ffonio 111 yn gyntaf cyn mynd yno.
Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Bydd y sawl sy’n galw yn derbyn cyngor iechyd dros y ffôn ac os oes angen asesiad pellach, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl.
Cofiwch mai dim ond mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd y dylech chi ffonio 999. Felly, os nad yw’n argyfwng sy’n bygwth bywyd, defnyddiwch 111.