Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyrwyr arall a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau sy'n gysylltiedig ag astudio fel offer, cymorth anfeddygol, teithio a llungopïo ac argraffu.
Mae sut rydych chi'n gwneud cais yn dibynnu ar ba fath o gwrs rydych chi'n ei astudio ac a ydych chi'n gwneud cais am gyllid myfyrwyr arall. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Cymorth ychwanegol sydd ar gael os ydych yn fyfyriwr israddedig llawn amser ag anabledd | Cyllid Myfyrwyr Cymru
Os oes gennych ddiagnosis o ADHD gan y GIG ac yn cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu ar hyn o bryd, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf. Byddant naill ai’n gallu rhagnodi eu hunain neu byddant yn gallu eich atgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl a byddwch yn gallu parhau i dderbyn meddyginiaeth ar bresgripsiwn.
Os ydych chi ar restr aros am asesiad ar hyn o bryd neu os oes gennych chi ddiagnosis gan ddarparwr gofal iechyd preifat, dylech chi gysylltu â'ch meddyg teulu. Os yw'n briodol yn glinigol, gallant eich atgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl i gael asesiad ar gyfer ADHD.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.