Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru gyda Meddyg Teulu

Mae cofrestru gyda meddyg teulu yn agos at eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn bwysig er mwyn sicrhau y gallwch gael mynediad at ofal iechyd a chyngor os oes ei angen arnoch tra eich bod yn y brifysgol.

Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, byddwch hefyd yn gallu cael presgripsiynau a gwasanaethau GIG Cymru am ddim gan fferyllydd cymunedol lleol.

Mae cofrestru gyda meddyg teulu yn hawdd; casglwch ffurflen o’r practis ei hun, neu edrychwch ar wefan y practis i weld a yw’n bosibl cofrestru’n uniongyrchol ar-lein. Gallwch ddod o hyd i bractis yn agos at eich cyfeiriad newydd trwy glicio ar y ddolen hon.

Gall myfyrwyr hefyd gofrestru gyda meddyg teulu ar-lein gan ddefnyddio CampusDoctor. I gofrestru gan ddefnyddio’r platfform hwn cliciwch yma. 

I gofrestru gyda Meddyg Teulu, bydd angen:

  • eich tref a’ch gwlad enedigol
  • eich cyfeiriad yn ystod y tymor
  • cyfeiriad eich practis meddyg teulu blaenorol
  • unrhyw hanes meddygol diweddar yn ymwneud ag alergeddau, meddyginiaeth, ystadegau hanfodol, dewisiadau ffordd o fyw neu unrhyw ddiagnosis neu driniaeth barhaus
Dilynwch ni