Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad rhag y ffliw a dos atgyfnerthu'r gaeaf COVID-19

 
 
Sut ydw i’n cael fy mrechu? 

Mae ein rhaglen Dos Atgyfnerthu’r Gaeaf COVID-19 bellach ar y gweill. Cael y dos atgyfnerthu yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hunain, eich anwyliaid a’r gymuned rhag salwch difrifol, felly ewch i’ch apwyntiad pan gewch eich gwahodd. 

Bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn practisau meddyg teulu, fferyllfeydd cymunedol ac yn ein tair Canolfan Brechu Torfol (MVC), a bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn gwahoddiad yn y post. Nid oes angen cysylltu â’r Bwrdd Iechyd na’ch practis meddyg teulu yn uniongyrchol. 

Os ydych chi hefyd yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw, efallai y bydd meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol a Chanolfannau Brechu Torfol yn gallu cynnig y brechlyn COVID a’r brechiad rhag y ffliw ar yr un pryd os oes stoc ar gael. Mae staff y Bwrdd Iechyd yn cael eu gwahodd i ddechrau drwy glinigau galw heibio. 

Mae brechlyn dos atgyfnerthu’r gaeaf ar gael trwy apwyntiad yn unig. Ni fydd unrhyw sesiynau galw heibio ar gael ar gyfer eich dos atgyfnerthu’r gaeaf ar hyn o bryd. 

A allaf aildrefnu fy apwyntiad? 

Os oes angen i chi aildrefnu neu ganslo eich brechlyn COVID-19, llenwch y ffurflen hon neu ffoniwch y ganolfan apwyntiadau ar 02921 841234. Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Sylwch fod ein llinellau ffôn yn brysur iawn, felly efallai y bydd yn gyflymach i chi lenwi’r ffurflen. 

Os ydych yn credu y dylech fod wedi clywed gennym, bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnal rhaglen ‘gadael neb ar ôl’ i sicrhau bod pawb sy’n gymwys yn cael cynnig dos atgyfnerthu’r gaeaf. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu wrth i ni gyrraedd diwedd y grwpiau er mwyn rheoli’r galw. 

Pwy sy’n gymwys i gael brechlyn? 

Mae’r bobl a fydd yn gymwys i gael brechlyn COVID-19 yr hydref a’r gaeaf hwn yn cynnwys: 

  • Oedolion sy’n 65 oed ac yn hŷn 

  • Preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn 

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd Imiwneiddio 

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 

  • Pobl rhwng 12 a 64 oed sy’n gysylltiadau cartref i bobl sy’n imiwnoataliedig (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd

  • Pobl rhwng 16 a 64 oed sy’n ofalwyr (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd

  • Pobl ddigartref 

Mae pobl a fydd yn gymwys i gael y brechiad rhag y ffliw yn cynnwys: 

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2023 

  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol) 

  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol) 

  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol 

  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024) 

  • Oedolion sydd yng ngharchardai Cymru 

  • Menywod beichiog 

  • Gofalwyr 

  • Pobl ag anabledd dysgu 

  • Staff mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid 

  • Staff sy’n darparu gofal cartref 

  • Staff sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen y GIG/Gofal Sylfaenol 

  • Gweithwyr gofal iechyd (gan gynnwys myfyrwyr gofal iechyd) sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion 

  • Pobl ddigartref 

Brechiad rhag y ffliw i blant 

Argymhellir y brechiad rhag y ffliw blynyddol i bob plentyn o ddwy oed (oedran ar 31 Awst 2023) hyd at, ac yn cynnwys, blwyddyn ysgol 11. Gall plant 2-3 oed (ar 31 Awst, 2023) gael eu brechlyn gan eu practis meddyg teulu lleol. Gwiriwch y trefniadau gyda’ch practis meddyg teulu. Bydd y rhan fwyaf o blant ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu brechiad yn yr ysgol. 

Rhoddir y brechiad ffliw ar ffurf chwistrell trwyn i blant fel arfer, gan y dywedir ei fod yn cynnig yr amddiffyniad gorau. Fodd bynnag, gellir cynnig pigiad brechiad ffliw iddynt os nad yw’r brechiad chwistrell trwyn yn addas ar eu cyfer. Mae brechiadau ffliw drwy bigiad hefyd yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Bydd y brechlyn COVID a’r brechiad rhag y ffliw yn cael eu rhoi ar yr un pryd lle bynnag y bo modd, a bydd llythyrau apwyntiad yn dechrau cyrraedd cartrefi ym mis Medi. Tra bydd y rhan fwyaf o bobl Bro Morgannwg yn mynychu MVC y Barri, yng Nghaerdydd bydd MVC newydd yn Hyb Llesiant Maelfa, Llanedeyrn ac Ysbyty Rookwood yn Llandaf. Bydd rhagor o fanylion am y rhain i ddilyn. 

 

Dilynwch ni