Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Ysgolion Iach

 

Mae Cynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Ei nod yw hybu a diogelu iechyd a llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg. Mae’r cynllun yn cwmpasu 7 maes pwnc:

  • Bwyd a ffitrwydd
  • Iechyd a Llesiant Meddyliol ac Emosiynol
  • Yr Amgylchedd
  • Diogelwch
  • Hylendid
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Datblygiad Personol a Pherthnasoedd

Ym mhob un o'r meysydd hyn, mae'n ofynnol i ysgolion ddangos eu bod wedi cyrraedd safonau ymarfer uchel. Dyfernir Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynllun Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru i ysgolion sydd wedi cyrraedd y safonau uchaf ym mhob un o'r saith maes.

 

Mae pob ysgol feithrin, cynradd, uwchradd, arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, yn ogystal ag Ysgol Gweithredu dros Blant Headlands, yn cymryd rhan yng Nghynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg.

Egwyddorion sylfaenol y cynllun yw:

  • Pwysigrwydd cyfranogiad disgyblion ym meysydd craidd bywyd ysgol sy'n effeithio ar iechyd a llesiant.
  • Pwysigrwydd dealltwriaeth ac ymrwymiad cymuned yr ysgol gyfan.
  • Agwedd gadarnhaol at iechyd.

 

Cefnogir ysgolion i ddarparu gweithgareddau a rhaglenni sy’n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol a osodwyd o fewn fframwaith:

  • Arweinyddiaeth a Chyfathrebu
  • Cwricwlwm
  • Ethos a'r Amgylchedd
  • Cyfranogiad Teuluoedd a’r Gymuned

 

Mentrau prosiect cyfredol

Gan weithio mewn partneriaeth, mae Cynllun Ysgolion Iach Bro Morgannwg yn cynnig ystod o gyfleoedd i ysgolion, er budd disgyblion a staff. Dyma ychydig o enghreifftiau:

 

Bwyd a Ffitrwydd

Rydym yn hyrwyddo bwyta'n iach yn seiliedig ar y 'Canllaw Bwyta'n Iach'. Anogir ysgolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni i annog gweithgaredd corfforol fel 'Milltir y Dydd' sy'n annog plant i redeg am filltir bob dydd. Rydym yn annog plant a theuluoedd yn gryf i deithio i’r ysgol mewn ffordd ‘llesol’, efallai drwy gerdded neu feicio. Cefnogir ysgolion cymwys i ymuno â’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol – rhaglen o weithgareddau a ddarperir gan ein partneriaid sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf ac sydd â phwyslais cryf ar fwyta’n iach.

 

Iechyd a Llesiant Meddyliol ac Emosiynol

Mae'r cynllun yn cysylltu'n agos â rhaglen arall, sef 'Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd a Llesiant Meddyliol ac Emosiynol' sy'n darparu ffordd drefnus i ysgolion adolygu'r hyn a gynigir ganddynt yn y maes hwn, a nodi a llenwi unrhyw fylchau. Daw materion megis bwlio a straen arholiadau o dan y maes hwn.

 

Hylendid

Gan ddefnyddio adnoddau fel E Bug, sef rhaglen a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu plant a phobl ifanc am ficrobau, atal a rheoli heintiau, brechu a gwrthfiotigau, galluogir ysgolion i gyflwyno gwersi yn y maes pwysig hwn. Mae'r wybodaeth yn cael ei chyfleu mewn ffordd hwyliog a diddorol, ond gyda neges syml fel hyrwyddo golchi dwylo.

 

Datblygiad Personol a Pherthnasoedd

Mae ysgolion yn cael gwybodaeth a hyfforddiant ar feysydd fel Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a sut i adnabod a chynnal perthynas ddiogel a chefnogol ag eraill.

 

Yr amgylchedd

Mae sawl mantais i dreulio amser yn yr awyr agored. Rydym yn helpu ysgolion i ddatblygu eu mannau awyr agored, i sefydlu prosiectau garddio, ac yn gyffredinol i wneud y gorau o'r adnoddau awyr agored sydd ganddynt.

 

Cyngor

Mae'r cyngor a roddwn i ysgolion yn seiliedig ar ymchwil a chanllawiau cyfredol. Dyma ychydig o enghreifftiau:

 

Mae gwaith i hybu iechyd meddwl da i ddisgyblion a staff yn seiliedig ar ddogfen a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru o'r enw 'Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol'.

Mae ein cyngor mewn perthynas â gweithgarwch corfforol yn seiliedig ar y Canllawiau Gweithgarwch Corfforol i Blant 5-18 oed.

Rydym yn annog bwyta'n iach yn seiliedig ar y 'Canllaw Bwyta'n Dda' sy'n dangos faint o'r hyn rydym yn ei fwyta yn gyffredinol ddylai ddod o bob grŵp bwyd er mwyn cael diet iach a chytbwys.

 

Mae llawer o ysgolion a theuluoedd yn gweld y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol:

 

Manylion cyswllt

Catherine Perry, Uwch Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd – Ysgolion Iach: Catherine.Perry@wales.nhs.uk

 

Folllow us on Twitter:  @SchoolHealthVoG / Dilynwch ni ar Twitter: @YsgolionIachFro

 

Dilynwch ni