Neidio i'r prif gynnwy

Hylendid Dwylo

Dyn yn golchi ei ddwylo

Dewiswyd yr ysbyty hwn fel partner oherwydd bod ein holl staff yn cymryd heintiau o ddifrif ac wedi ymrwymo i'ch cadw chi, ein cleifion, mor ddiogel ac iach â phosibl. Mae'r daflen hon yn dweud mwy wrthych am heintiau a'r ymgyrch glanhaueichdwylo ar gyfer hylendid dwylo, ac yn eich gwahodd chi i fod yn bartner i ni tra'ch bod chi yma.

Beth sy'n achosi heintiau?

Gall heintiau gael eu hachosi gan feirysau, ond yn bennaf gan ‘bygiau’ neu germau o’r enw bacteria sy’n digwydd yn naturiol o’n cwmpas. Maen nhw weithiau ar ein croen, a hyd yn oed yn ein cegau a'n trwynau. Nid yw'r mwyafrif ohonyn nhw'n gwneud unrhyw niwed i ni.

Ond pan nad ydym yn iach neu ar ôl llawdriniaeth, mae amddiffynfeydd naturiol ein cyrff yn wannach, felly mae angen mwy o ofal i’n hamddiffyn. Gallai cael haint yn yr ysbyty olygu aros yn hirach wrth iddo gael ei drin. Mae rhai bacteria - fel MRSA - yn anodd eu lladd â gwrthfiotigau oherwydd eu bod wedi datblygu ymwrthedd.

Rydym eisiau rhwystro ein cleifion rhag dal yr heintiau hyn yn y lle cyntaf.

Beth yw'r ymgyrch Glanhau Eich Dwylo - a sut y gall helpu i atal heintiau rhag lledaenu yn yr ysbyty?

Mae'r ymgyrch yn ymwneud â gwella hylendid dwylo. Pan fydd staff yn glanhau eu dwylo cyn ac ar ôl cyffwrdd â phob claf, mae'n helpu i atal bygiau rhag lledaenu. Mae dwy brif ffordd o wneud hyn:

  • Golchi gyda dŵr a sebon – mae hyn yn cael gwared ar germau a dyma sydd orau os yw eich dwylo yn fudr.
  • Defnyddio diheintyddion dwylo – mae'r rhain yn lladd tua 99% o germau mewn tua 30 eiliad ac yn sychu'n naturiol ar y croen. Ac oherwydd nad oes yn rhaid i ni fod yn agos at sinc i'w defnyddio, maen nhw hefyd yn gyfleus iawn. Mae'r ymgyrch glanhaueichdwylo yn arbennig yn annog staff i ddefnyddio'r diheintyddion hyn. Gobeithiwn y bydd ein gweld ni'n eu defnyddio yn eich helpu i deimlo'n hyderus eich bod mewn dwylo diogel yn yr ysbyty hwn.

A oeddech chi'n gwybod y gallai fod angen i nyrs gofal dwys lanhau ei dwylo hyd at 40 gwaith yr awr er mwyn cadw'n rhydd o germau?

Mae diheintyddion dwylo yn lladd bron pob byg mewn 30 eiliad, ac yn ffordd wych o'ch cadw'n ddiogel.

Gweithio gyda'n gilydd

Efallai y byddwch yn ein gweld yn gwisgo bathodynnau, sticeri neu ffedogau gyda'r neges “Mae'n iawn gofyn”. Mae hynny oherwydd ei bod. Rydym yn cymryd hylendid dwylo o ddifrif. Ond weithiau, pan fyddwn ni'n brysur iawn, efallai na fyddwn ni'n glanhau ein dwylo mor aml ag y dylen ni. Felly os ydych chi'n poeni ein bod ni wedi anghofio, mae'n iawn ein hatgoffa! Rydym yn croesawu eich help i'ch cadw'n ddiogel.

I ddarganfod mwy am heintiau yn yr ysbyty, gallwch siarad â'ch nyrs rheoli heintiau neu swyddog cyngor a chyswllt cleifion yma yn yr ysbyty. Gofynnwch.

Mae eich anfon adref yn iach yn bwysig i ni. Helpwch ni i gael pethau'n iawn.

Mae'r posteri ymgyrch y byddwch chi'n eu gweld ar y ward yno i atgoffa pawb pa mor bwysig yw dwylo glân yn y frwydr i atal heintiau.

Atgynhyrchir y testun uchod o daflen yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion.

Rhagor o wybodaeth

Canfyddwch fwy am bwysigrwydd hylendid dwylo da yn y taflenni canlynol:

Dilynwch ni