Bydd eich meddyg teulu, eich Fferyllydd Cymunedol ac aelodau eraill o’ch tîm Gofal Sylfaenol lleol ar gael yn ôl yr arfer yn ystod yr wythnos (8:00am - 6:30pm, Dydd Llun - Dydd Gwener), a hwn fydd y prif wasanaeth y bydd cleifion yn ei ddefnyddio o hyd. Dydy sut na phryd y byddwch chi’n defnyddio eich gwasanaeth meddyg teulu eich hun ddim yn newid yn ystod yr oriau hynny.
Mae meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar gael y tu allan i’r oriau hyn ac ar Wyliau’r Banc, i ymateb i achosion brys pan na all cleifion aros i’w meddygfa ailagor. Byddwch yn gallu cael mynediad at ofal brys y tu allan i oriau drwy ffonio 111.
Trwy gyfuno gwasanaeth Galw Iechyd Cymru â’r gwasanaeth tu allan i oriau, bydd GIG 111 Cymru yn gallu cynnig gwybodaeth a chyngor am iechyd ynghyd â thriniaeth frys i chi os yw eich cyflwr neu broblem yn un brys, ond nid yw’n achos sy’n bygwth bywyd. Cofiwch mai dim ond mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd y dylech chi ffonio 999. Felly, defnyddiwch 111 os nad yw’n argyfwng.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, byddwch hefyd yn ffonio 111 os oes angen gofal brys arnoch, fel yr uned achos brys neu’r uned mân anafiadau. Bydd swyddog galwadau yn nodi eich manylion a bydd clinigwr yn eich ffonio’n ôl i’ch asesu. Os yw’n briodol, efallai y cewch slot amser i gael gofal neu driniaeth yn yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau.