Neidio i'r prif gynnwy

I bwy ddylwn i gwyno os oes gen i bryderon am wasanaeth 111 ac am ofal tu allan i oriau?

Os oes gennych bryderon am y gwasanaeth a gafwyd gan 111, cysylltwch â Thîm Gweithio i Wella Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru http://www.was-tr.wales.nhs.uk/Default.aspx?pageId=20, neu ffoniwch 0300 321 321 1.

Os oes gennych bryderon am y gwasanaeth a gafwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n tîm Pryderon Cleifion drwy e-bostio cav.concerns@wales.nhs.uk, neu ffoniwch y tîm rhwng 9am a 5pm (o ddydd Llun i ddydd Gwener) ar 02920 743301 neu 02990 744095.

Ar 1 Ebrill, 2023 cyflwynwyd corff llais y dinesydd newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o’r enw Llais — gan ddisodli’r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yng Nghymru.

Cyflwynwyd Llais i gryfhau grym a dylanwad lleisiau pobl wrth lunio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Bydd gwirfoddolwyr yn weithgar mewn cymunedau lleol ledled Cymru, gan wrando ar farn pobl a defnyddio’r hyn maen nhw’n ei glywed i helpu i wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well i bawb. Bydd Llais yno hefyd i gefnogi pobl i wneud cwynion drwy wasanaeth eiriolaeth cwynion cyfrinachol.

 

Llais (rhanbarth Caerdydd a Bro Morgannwg)

Canolfan Fusnes Pro-Copy (Cefn)

Parc Tŷ Glas

Llanisien

Caerdydd

CF14 5DU

Rhif ffôn: 02920 750112

Pryderon: cardiff&valeadvocacy@llaiscymru.org

Gohebiaeth gyffredinol: cardiff&valeenquiries@llaiscymru.org 

Gwefan: www.llaiscymru.org

 

Dilynwch ni