Os byddwch chi’n ffonio 111, byddwch chi’n siarad â swyddog galwadau sydd wedi cael hyfforddiant yn y lle cyntaf. Mae pob un o’n swyddogion galwadau yn cael hyfforddiant ac addysg drylwyr, a byddant yn gofyn cyfres o gwestiynau byr i chi ac yn gwneud nodyn o fanylion sylfaenol (gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac yn y blaen), fel y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel meddygon a nyrsys, ganolbwyntio ar yr asesiad clinigol. Bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu galwadau yn ôl eu difrifoldeb, fel bod modd trin y bobl sydd â’r angen mwyaf yn gyntaf.