Mae gan wasanaeth GIG 111 Cymru ganolfan alwadau yng Nghwmbrân, Abertawe, Bangor a Hwlffordd. Mae gan bob un o’r rhain fynediad i gyfeiriadur o wasanaethau lleol, a bydd modd iddynt roi’r un lefel o ofal a chyngor i chi. Mae gwasanaeth GIG 111 Cymru hefyd yn sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a chyfleoedd datblygu yn gyson, er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â phob maes sy’n rhan o’r gwasanaeth, ac mae eisoes ganddynt brofiad o wneud hyn yn nifer o ardaloedd y Bwrdd Iechyd. Bydd y gwasanaeth tu allan i oriau yn parhau i ddarparu gofal lleol pan fo angen.