Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r manteision i gleifion a beth yw'r manteision i'r GIG?

Y brif fantais i gleifion yw y bydd ystod o wasanaethau ar gael i chi trwy un llinell gyswllt sy’n rhad ac am ddim, a fydd yn ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i’r gwasanaeth iawn - a hynny am y tro cyntaf erioed. Bydd hyn yn cefnogi’r ymgyrch ehangach i annog cleifion i wneud ‘Dewis Doeth’ a bydd yn helpu i wneud yn siŵr y bydd ein hadran ddamweiniau ac achosion brys a’n gwasanaethau 999 yn gallu helpu’r rhai sydd mewn dirfawr angen.

Yn ogystal, mae rhai cleifion yn meddwl mai’r adran damweiniau ac achosion brys yw’r unig wasanaeth sydd ar gael, yn enwedig gyda’r nos neu dros y penwythnos. Bydd ffonio 111 yn helpu cleifion i ddod o hyd i’r lle iawn er mwyn i chi gael mynediad at y gwasanaeth mwyaf priodol.

Dilynwch ni