Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw gwasanaeth 111 a pham ydych chi'n ei gyflwyno nawr?

Bydd gwasanaeth 111 yn cyfuno dau wasanaeth sy’n cael eu darparu gan wahanol rannau o GIG Cymru – sef Galw Iechyd Cymru a’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau pan fydd eich meddygfa ar gau. Roedd GIG Cymru yn bwriadu cyflwyno rhif tri digid syml, rhad ac am ddim a hawdd i’w gofio ers nifer o flynyddoedd. Gwyddom fod pobl weithiau’n ei chael hi’n anodd gwybod pa wasanaeth y dylen nhw ei ffonio a phryd, felly bydd cyflwyno llinell gyswllt sy’n rhad ac am ddim yn ei gwneud yn haws i bobl, nid yn unig o ran cael mynediad at ofal brys ond hefyd o ran cael cyngor a gwybodaeth am iechyd os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud. Bydd hefyd yn sicrhau mai dim ond cleifion mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd bydd yn defnyddio ein Huned Achosion Brys a’n gwasanaethau ambiwlans

Dilynwch ni