Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd os ydw i'n fyddar?

Mae gwasanaeth InterpreterNow, sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a chanol nos, ar gael i bobl fyddar (a phobl sy’n gallu clywed), sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain [BSL]. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ar lein. Mae modd defnyddio InterpreterNow ar gyfrifiadur neu drwy ap InterpreterNow ar eich ffôn clyfar neu dabled. Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu â gwasanaeth InterpreterNow, bydd y dehonglydd yn cysylltu â ni dros y ffôn ac yn trosglwyddo eich galwad i aelod o’r tîm e.e. Ymgynghorydd Nyrsio neu Ymgynghorydd Gwybodaeth Iechyd, gan ddibynnu ar y broblem. Byddwn ni’n gofyn nifer o gwestiynau i chi i asesu eich anghenion, a byddwn ni wedyn naill ai yn rhoi’r cyngor gofal iechyd mwyaf priodol i chi neu’n eich cyfeirio at y gwasanaeth lleol all eich helpu orau.

Dilynwch ni