Neidio i'r prif gynnwy

A yw hyn yn disodli CAF 24/7?

Os ydych chi’n credu bod angen yr uned frys neu’r uned mân anafiadau arnoch, mae’n rhaid i chi ffonio yn gyntaf o hyd, ond gallwch ffonio 111.

Mae 111 yn rhad ac am ddim ac yn rhif haws i’w gofio. Bydd swyddog galwadau yn nodi eich manylion ac os ydynt yn credu bod angen triniaeth neu ofal arnoch yn yr ysbyty, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl. Os ydyn nhw’n meddwl bod angen i chi gael eich gweld, byddwch yn cael cynnig slot amser yn y lle priodol.

Drwy ffonio 111 efallai y cewch eich cyfeirio at eich fferyllydd cymunedol neu weithiwr gofal sylfaenol proffesiynol arall fel eich bod yn derbyn gofal o’r lle iawn, y tro cyntaf.

Dilynwch ni