Neidio i'r prif gynnwy

Ffonio 111

Mae GIG 111 Cymru hefyd ar gael dros y ffôn; mae’n rhad ac am ddim i’w alw o linellau tir a ffonau symudol ac mae’n darparu mynediad at wasanaethau Tu Allan i Oriau a chyngor iechyd gan GIG Cymru. 

Yng Nghaerdydd a’r Fro, rhaid i chi ffonio GIG 111 Cymru yn gyntaf i gael mynediad at yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau ar gyfer argyfwng brys sydd ddim yn bygwth bywyd. 

Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn asesu’ch cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Bydd y sawl sy’n galw yn derbyn cyngor iechyd dros y ffôn ac os oes angen asesiad pellach, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl. 

Os oes angen i chi gael eich gweld yn y Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys (Tu Allan i Oriau), neu os oes angen asesiad arnoch yn yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, bydd ein clinigwyr CAF 24/7 yn trefnu hyn i chi. 

Cofiwch mai dim ond mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd y dylech chi ffonio 999. Felly, os nad yw’n argyfwng sy’n bygwth bywyd, defnyddiwch 111. 

Dilynwch ni