Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon, Cwynion a Chanmoliaeth

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro bob amser yn ceisio gwella gwasanaethau ac er mwyn gwneud hyn mae angen inni glywed gennych chi. Rydym hefyd yn croesawu eich ymholiadau am unrhyw beth sydd o ddiddordeb i chi, neu unrhyw beth yr hoffech wybod rhagor yn ei gylch. 

Manylion Cyswllt

 

Mae'r Swyddfa Bryderon ar agor rhwng 9am a 5pm (ddydd Llun i ddydd Gwener). Ffoniwch y rhifau canlynol yn ystod oriau swyddfa os hoffech siarad ag aelod o'r Tîm Pryderon. 

029 218 36318

Gallwch hefyd lenwi ein Ffurflen Bryderon, e-bostio'r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu ysgrifennu at y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Maes y Coed Road, Llanisien, Caerdydd CF14 4HH.

Os hoffech gyfathrebu â ni yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL), defnyddiwch SignVideo.

Dilynwch ni