Mae Gweithio i Wella yn broses ar gyfer delio â Chwynion, Hawliadau a Digwyddiadau a elwir gyda'i gilydd yn “Bryderon”. Mae hyn yn cynrychioli newid diwylliant sylweddol i'r GIG yng Nghymru yn y ffordd y mae'n delio â phethau sy'n mynd o chwith, gan gyflwyno un dull cyson ar gyfer graddio ac ymchwilio i bryderon, yn ogystal â bod yn fwy agored ac ymglymiad yr unigolyn sy'n codi'r pryder.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y taflenni canlynol gan Lywodraeth Cymru:
Putting Things Right A5 Leaflet English
Taflen Gweithio i Wella A5 Cymraeg
Putting Things Right Large Print English
Gweithio i Wella Print Mawr Cymraeg
Putting Things Right - Information for Children and Young People English
Gweithio i Wella - Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc Cymraeg
Darganfyddwch fwy trwy wylio'r fideo Iaith Arwyddion Brydeinig ganlynol.
Mae'r Swyddfa Bryderon ar agor ar yr amseroedd canlynol:
Dydd Llun 8am i 4pm
Dydd Mawrth 8am i 4pm
Dydd Mercher 8am i 6pm
Dydd Iau 8am i 4pm
Dydd Gwener 8am i 4pm
Ffoniwch y rhifau canlynol yn ystod oriau swyddfa os hoffech siarad ag aelod o'r Tîm Pryderon.
Gallwch hefyd lenwi ein Ffurflen Bryderon, e-bostio'r tîm yn concerns@wales.nhs.uk neu ysgrifennu at y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Maes y Coed Road, Llanisien, Caerdydd CF14 4HH.
Os hoffech gyfathrebu â ni yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL), defnyddiwch SignVideo.