Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer fy Nhriniaeth ac Adferiad

Llythyr apwyntiad:

Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi'n effeithiol wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch profiad o driniaeth a'ch adferiad.

Efallai eich bod yn y cyfnod cynnar o feddwl am gael llawdriniaeth, neu efallai eich bod wedi aros yn hir i gael llawdriniaeth. Waeth beth yw eich sefyllfa, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn paratoi, bod yn barod, a chael canlyniad mwy llwyddiannus a gwell adferiad.

Beth yw’r manteision o baratoi ar gyfer triniaeth neu lawdriniaeth?

Dyma rai o’r manteision sy’n deillio o baratoi’n dda ar gyfer llawdriniaeth:

  • llai o gymhlethdodau a sgileffeithiau ar ôl y llawdriniaeth
  • llai o amser yn yr ysbyty a dychwelyd adref yn gynt
  • dychwelyd yn gynt i’ch lefel iechyd a ffordd o fyw blaenorol
  • mwy o egni, llai o flinder, a gwell iechyd meddwl
  • mwy o reolaeth dros benderfyniadau ynghylch gofal.

Ar wefan Cadw Fi’n Iach mae clinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi dod â gwybodaeth a chyngor ynghyd am yr hyn y gallwch ei wneud i baratoi eich hun ar gyfer eich triniaeth yn y ffordd orau, a’r hyn y gallwch ei wneud yn ystod eich triniaeth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.

 

 
 
 
 
Dilynwch ni