Neidio i'r prif gynnwy

Nôl i'r Ysgol

Gall meddwl am fynd i ysgol newydd neu ddechrau blwyddyn ysgol newydd eich cyffroi chi; gallwch weld eich ffrindiau unwaith eto, cwrdd ag athrawon newydd a dechrau astudio pynciau newydd. Fodd bynnag, gall hefyd wneud i chi deimlo’n bryderus; wynebu newid neu ddod i arfer â threfn newydd a chadw i fyny â’r gwaith tra’n rhyngweithio â phobl nad ydych chi efallai’n eu hadnabod yn arbennig o dda.

Beth bynnag rydych chi’n ei deimlo, mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu i baratoi a chefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles:

Ysgrifennwch unrhyw bryderon a allai fod gennych ar bapur

Ysgrifennwch bopeth rydych chi’n edrych ymlaen ato yn yr ysgol, a phopeth rydych chi’n poeni amdano. Gallech ddangos y rhestr i oedolyn rydych yn ymddiried ynddo fel y gallant eich helpu i ymdopi â’ch pryderon.

Dechreuwch fynd yn ôl i drefn arferol

Mae’n ddefnyddiol dechrau meddwl am fynd yn ôl i drefn yn araf yn ystod y dyddiau sy’n arwain at eich diwrnod cyntaf yn ôl. Os ydych chi wedi bod yn aros yn effro’n hwyr ac yn deffro’n hwyr, dechreuwch trwy fynd i’r gwely ychydig yn gynharach a gosod larwm ar amser sy’n nes at eich amser deffro ar ddiwrnod ysgol. Bydd hyn yn helpu i addasu cloc eich corff a sicrhau bod eich diwrnod go iawn cyntaf yn llai o sioc i’r system.

Ymgyfarwyddwch â’ch llwybr teithio

Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn dechrau mewn ysgol newydd sy’n golygu y byddwch yn teithio ar lwybr gwahanol. Gallech roi cynnig ar wneud y daith cyn i’r ysgol ddechrau, gyda rhiant neu oedolyn dibynadwy arall, gan roi cyfle i chi ymgyfarwyddo ag ef a sicrhau eich bod yn gwybod faint o amser y bydd ei angen arnoch i gwblhau eich taith yn ddiogel.

Paratowch eich pethau y noson gynt

Ceisiwch sicrhau bod eich bag wedi’i bacio gyda’r llyfrau cywir y noson gynt a bod eich gwisg ysgol yn barod, os ydych yn gwisgo un. Bydd hyn yn helpu i achosi llai o straen yn ystod eich bore cyntaf cyn mynd i’r ysgol.

Bwytewch frecwast iach

Mae’n bwysig ceisio sicrhau bod gennych ddigon o egni i ganolbwyntio wrth ddysgu yn yr ysgol, ac mae bwyta brecwast yn lle da i ddechrau.

Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau

Gofynnwch i’ch rhieni, athrawon neu gwnselwyr ysgol am unrhyw bryderon sydd gennych; gallai hyn ymwneud â beth sydd ei angen arnoch ar gyfer yr ysgol, eich gwersi newydd neu beth i’w wneud os ydych yn teimlo wedi’ch llethu, yn bryderus neu’n unig ac angen rhywfaint o gefnogaeth.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni