Mae misoedd yr haf yn llawn temtasiynau blasus, ond mae'n bwysig ceisio cynnal deiet iach a chytbwys sy'n cynnwys bwyta digon o ffrwythau a llysiau.
Mae bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd yn ffordd syml ac effeithiol o gael maetholion gwerthfawr i'n cyrff, sydd â nifer o fanteision gan gynnwys:
Gall fod yn anodd meddwl am ffyrdd newydd a diddorol o ychwanegu maetholion at ein bwyd, yn enwedig os oes gennych blant nad ydynt efallai'n mwynhau blas opsiynau iachach. Gall yr awgrymiadau a'r triciau canlynol eich helpu i fwynhau cael mwy o ffrwythau a llysiau yn eich diet.
Mae ryseitiau ffrwythau a llysiau cudd yn ffordd wych o gynnwys maetholion gwerthfawr mewn prydau a byrbrydau bob dydd os oes gennych chi blentyn sy'n gadael ei lysiau ar ei blât yn rheolaidd.
O ryseitiau un pot i sawsiau syml, mae amrywiaeth o opsiynau hawdd ar gyfer sicrhau bod eich teulu cyfan yn cael eu pump y dydd. Gall cyri cyw iâr syml guddio pedwar o lysiau maethlon drwy gymysgu moron, corbwmpen, blodfresych a phupur coch at eich hoff saws cyri.
Edrychwch ar ryseitiau llysiau cudd ar wefan BBC Good Food i gael mwy o ysbrydoliaeth.
Mae yna lawer o ffyrdd hawdd y gallwch chi newid eich hoff fyrbryd haf am opsiwn iachach sydd yr un mor flasus. Ceisiwch rewi ffrwythau fel dewis arall yn lle loli iâ neu ddefnyddio iogwrt naturiol i wneud hufen iâ cartref, iachach.
Mae tîm Maeth a Deieteg Caerdydd a’r Fro wedi llunio rhestr o ryseitiau blasus i’ch helpu i gynnal deiet cytbwys wrth fwyta’r bwydydd rydych chi’n eu mwynhau.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.