Disgwylir i’n gwasanaethau fod yn brysur iawn dros gyfnod y Gaeaf. Efallai y bydd rhai gwasanaethau ar gau neu ar agor yn ystod oriau cyfyngedig yn unig. Gofalwch amdanoch eich hun a chynlluniwch ymlaen llaw trwy ddilyn y cyngor isod.
Gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu os ydych mewn poen neu’n poeni am gyflwr. Gwiriwch amseroedd agor eich meddyg teulu dros y Nadolig rhag ofn y bydd angen i chi gysylltu â nhw. I gysylltu â gwasanaeth y tu allan i oriau, ffoniwch GIG 111 Cymru.
Archebwch unrhyw bresgripsiynau rheolaidd ymlaen llaw i sicrhau bod gennych ddigon dros gyfnod y Nadolig. Bydd rhai fferyllfeydd ar agor am gyfnodau cyfyngedig dros wyliau’r banc neu gallant fod ar gau yn gyfan gwbl. Gallwch gael rhai presgripsiynau brys a fydd yn ddigon am bum diwrnod. Bydd hyn yn bosibl dim ond os yw’n argyfwng gwirioneddol, os nad yw’n gyffur rheoledig (e.e. morffin, pethidin, methadon), os ydych yn mynd i’r fferyllfa yn bersonol ac os yw’n amhosibl gweld eich meddyg teulu. Noder – efallai y codir tâl am hyn.
Chwiliwch am eich fferyllfa leol ac edrychwch ar yr amseroedd agor.
Yng Nghaerdydd a’r Fro, rhaid i chi ffonio GIG 111 Cymru yn gyntaf i gael mynediad at yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, neu os oes angen gofal brys arnoch y tu allan i oriau.
Drwy ffonio 111, bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf. Bydd y sawl sy’n galw yn derbyn cyngor iechyd dros y ffôn ac os oes angen asesiad pellach, bydd clinigwr o CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl.
Os oes angen i chi gael eich gweld yn y Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys (Tu Allan i Oriau), neu os oes angen asesiad arnoch yn yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, bydd clinigwyr CAF 24/7 yn trefnu hyn i chi.
Os ydych yn treulio amser oddi cartref y Nadolig hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio digon o feddyginiaeth. Mae hefyd yn bwysig darganfod pa wasanaethau iechyd (gan gynnwys meddygon teulu y tu allan i oriau) sydd ar gael yn yr ardal rydych chi’n ymweld â hi.
Dilynwch yr awgrymiadau hyn i gadw’ch hun a’ch anwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn.
P’un a ydych chi’n coginio gartref y Nadolig hwn, neu’n ailddefnyddio bwyd sy’n weddill, mae’n bwysig cynnal hylendid bwyd da adeg y Nadolig trwy lanhau, oeri, coginio ac osgoi croes-halogi.
Dysgwch fwy am hylendid bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Os ydych chi’n cael gwenwyn bwyd, fel arfer gallwch chi drin eich hun neu’ch plentyn gartref. Dysgwch fwy ar wefan GIG 111 Cymru.
Gallwch wirio faint o unedau sydd yn eich diodydd trwy ddefnyddio’r cyfrifiannell unedau alcohol. Peidiwch byth ag yfed a gyrru. Pan fyddwch allan, cadwch eich diod gyda chi bob amser, ceisiwch osgoi cerdded adref ar eich pen eich hun a chadwch eich eiddo personol yn agos atoch bob amser.
Mae Heddlu De Cymru yn ein hannog i wneud y canlynol:
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi llunio deuddeg o gynghorion Iechyd a Diogelwch i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel.
Os ydych yn 65 oed neu’n hŷn, neu’n perthyn i un o’r grwpiau eraill sydd mewn perygl, mae’n bwysig cael cymorth meddygol cyn gynted ag y byddwch yn teimlo’n sâl.
Gallwch gael help a chyngor gan:
Po gynharaf y cewch gyngor, y cynharaf y byddwch yn debygol o wella.
Ffoniwch eich fferyllfa neu cysylltwch â nhw ar-lein cyn mynd yno eich hun. Gallwch drefnu bod meddyginiaethau’n cael eu danfon atoch neu ofyn i rywun eu casglu.
Mae’r cynnydd yng nghost ynni yn golygu bod cadw eich cartref yn gynnes yn anoddach, ond mae cadw’n gynnes yn bwysig er mwyn cadw eich hun yn iach.
Mae GIG 111 Cymru wedi darparu’r awgrymiadau isod i’ch cadw chi a’ch teulu’n gynnes ac yn iach gartref:
Help gyda’ch Costau Gwresogi
Os ydych chi’n cael trafferth gyda biliau ynni, gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr help sydd ar gael yma:
Cadwch olwg ar gymdogion a pherthnasau hŷn, a’r rhai sydd â phroblemau gyda’r galon neu anadlu i sicrhau:
Os ydych chi’n poeni am berthynas neu gymydog oedrannus, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu ffoniwch linell gymorth Age Cymru ar 029 2043 1555. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 4pm.
Os ydych chi’n poeni y gallai fod gan yr unigolyn hypothermia, cysylltwch â GIG 111 Cymru.
Weithiau bydd angen help a chymorth arnoch i wneud synnwyr o’r ffordd rydych yn teimlo, ac i reoli eich meddyliau. Gall hyn amrywio o ddefnyddio adnoddau hunangymorth, i gael cymorth gan sefydliadau ac elusennau, a gweld eich meddyg teulu.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, gallwch nawr ffonio 111 a phwyso opsiwn 2.
Mae 111 Pwyswch 2 ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae yno i gefnogi unigolion ledled Caerdydd a'r Fro sy'n profi argyfwng iechyd meddwl, neu sydd ddim yn siŵr pa help sydd ar gael i'w cefnogi gyda'u hiechyd meddwl.
Gallwch ffonio’r rhif am ddim o linell dir neu ffôn symudol ac mae ar gael i unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser neu ewch i'r Uned Achosion Brys agosaf.
Mae gwefan SilverCloud yn cynnig rhaglenni therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein ar gyfer pobl sy’n 16 oed ac yn hŷn, sydd â lefelau ysgafn neu gymedrol o iselder, gorbryder neu straen.
Dysgwch am Gyrsiau Mynediad Agored sydd ar gael drwy wefan Stepiau, gyda phynciau’n amrywio o straen, i dderbyn a thosturi.
Mae'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn cynnig chwe rhestr chwarae sy'n eich cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu yn ystod y cyfyngiadau symud a thu hwnt, ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed.
Edrychwch ar gyfres o 23 o ganllawiau hunangymorth ar wefan Stepiau, sy’n gam cyntaf defnyddiol i ddeall eich meddyliau a’ch teimladau sy’n ymwneud â phynciau iechyd meddwl gwahanol.
Mae nifer o grwpiau lleol y gallwch gysylltu â nhw i gael cymorth ychwanegol.
Mae Mind Caerdydd a Mind ym Mro Morgannwg yn cynnig gwasanaethau cwnsela a gwasanaethau eraill.
Gellir cysylltu â'r Samariaid — Caerdydd a'r Cylch 24/7 dros y ffôn, e-bost, llythyr neu drwy eu Ap Hunangymorth.
Mae symptomau’n amrywio’n sylweddol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl gwahanol, ond yma ceir rhai arwyddion ehangach y gallai fod angen cymorth arnoch gan eich meddyg teulu:
Mae gweld eich meddyg teulu yn gam pwysig er mwyn cael y cymorth iawn. Pan fyddwch yn siarad â’ch meddyg teulu, dylech fod mor agored a gonest â phosibl am sut rydych chi’n teimlo - bydd hyn yn caniatáu i’ch meddyg teulu ddeall eich profiadau yn llawn a sicrhau eich bod yn cael yr help iawn. Mae croeso i chi ddod ag aelod o’r teulu neu ffrind gyda chi i’ch cefnogi os credwch y bydd yn helpu.
Mae gan bob ysgol yn ein hardal fynediad at nyrs ysgol a chwnselydd, sy'n gallu cefnogi plant a phobl ifanc.
Mae’r Gwasanaeth ChatHealth hefyd ar gael i bobl ifanc rhwng 11-19 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Gallwch anfon neges destun at eich nyrs ysgol ar 07520 615718 i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.
Mwy o wybodaeth am gymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Gan fod mwy o siawns o eira a rhew dros y gaeaf, mae’n fwy tebygol y byddwch yn llithro, baglu a chwympo. Mae risg uwch o anaf difrifol os bydd pobl fregus neu agored i niwed yn cwympo. Gall y mesurau syml hyn leihau’r risg o gwympo.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.